Arddangosfa Pobl Ddiemwnt yng Nghrughywel

Bydd arddangosfa ffotograffiaeth Pobl Ddiemwnt yn cael ei harddangos yn Y Stiwdio, CRiC, Stryd Beaufort, Crughywel o ddydd Mawrth 20 Chwefror tan ddydd Sul 4 Mawrth 2018.

Mae’r Stiwdio gyferbyn â Chanolfan Wybodaeth CRiC ac mae ar agor o 10am – 5pm (Llun–Sadwrn) a 10am – 1pm (Sul).

Dyma arddangosfa o bortreadau ffotograffig o bobl, sy’n cynnwys un portread ar hugain a ddewiswyd o blith yr holl bobl ragorol sydd wedi helpu Bannau Brycheiniog i fod yr hyn ydyw heddiw, ac mae’n adrodd stori amrywiol y parc. Mae’r arddangosfa, oedd yn rhan o ddathliadau 60-mlwyddiant y Parc Cenedlaethol, wedi teithio o gwmpas sawl lleoliad, a chyhoeddwyd y lluniau yn y Wasg Genedlaethol.

Meddai ffotograffydd yr arddangosfa, Billie Charity o’r Gelli Gandryll: “Mae gweithio ar y prosiect hwn wedi fy nghyflwyno i rannau syfrdanol o hardd o Fannau Brycheiniog nad oeddwn i’n gwybod eu bod nhw’n bodoli, a hefyd i rai o’r bobl wirioneddol wych sy’n byw ac yn gweithio yno.”

Ychwanegodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae Pobl Ddiemwnt yn arddangosfa ardderchog sy’n dangos cymaint o amrywiaeth a gweithgarwch sydd ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; o ferched Nepalaidd sy’n ein cynorthwyo i gynnal a chadw llwybrau cerdded, i’n partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer gweithio gyda busnesau preifat. Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lawer o linynnau gwahanol ac mae’r arddangosfa hon yn gyfle i ddangos wynebau lluosog y Parc Cenedlaethol yn glir ac yn artistig.”

 – DIWEDD –