Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Gwirfoddolwyr Yn Eisiau!

Ar hyn o bryd mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn recriwtio gwirfoddolwyr i weithio o fewn y Parc.

                         ©Billie Charity

Mae Gwirfoddolwyr Cadwraeth yr Ucheldiroedd yn ymgymryd â gwaith cadwraeth ac ecoleg i helpu i adfer cynefinoedd pwysig rhyngwladol ac maent hefyd yn gwneud gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar Henebion Cofrestredig ucheldirol yn y Mynyddoedd Du. Ar hyn o bryd mae’r gwirfoddolwyr yn ymgymryd â phrosiect adfer Mawn yr Ucheldir yn y Mynyddoedd Du, gan gydweithio’n agos â’r Prosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy un filiwn o bunnoedd a roddwyd yn ddiweddar i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Gwirfoddolwyr Llwybr yr Ucheldiroedd yn gweithio o fewn y Mynyddoedd Du a Bannau Brycheiniog gan wneud gwaith gynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol ar lwybrau ucheldirol gan ddefnyddio sgiliau traddodiadol i sicrhau bod ein llwybrau mewn trefn dda i bawb eu defnyddio. Mae’r ddau grŵp yn recriwtio ac mae dull hyblyg yn caniatáu i wirfoddolwyr weithio yn y naill a’r llall. Cynhelir diwrnodau gwaith ar ddydd Mercher ar gyfer Gwirfoddolwyr Llwybr yr Ucheldiroedd a dydd Gwener a dydd Sadwrn ar gyfer Gwirfoddolwyr Llwybr yr Ucheldiroedd. Rhoddir hyfforddiant llawn a bydd gwirfoddolwyr yn dod i ddeall y gwaith. Bydd cyfleoedd i ennill cymhwyster wedi ei achredu mewn cymorth cyntaf ac yn y defnydd diogel o beiriannau torri prysgwydd.  Gall hyn fod yn waith anodd ac egnïol, gyda dyddiau llawn o waith caled cynhyrchiol yn aml mewn tywydd garw yn y Mynyddoedd Du.

Mae gwirfoddoli o fewn y Parc yn ffordd wych o ddefnyddio’ch sgiliau, dysgu sgiliau newydd ac yn cynnig cyfle i gwrdd â phobl sydd â diddordebau tebyg. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn amgylchedd gwych i weithio ynddo a bydd y gwaith a gynhelir yn helpu i gynnal a chynnal y dirwedd hon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae bron i 200 o wirfoddolwyr yn gweithio yn y Parc ar hyn o bryd.

Dywedodd Chris Evans, sy’n gwirfoddoli yn y Parc: “Mae gwirfoddoli gyda Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ffordd wych o fod yn actif yn yr awyr agored, a chwrdd â phobl newydd, ac yn rhoi cyfle i mi roi rhywbeth yn ôl. Dyma un o dirweddau prydferthaf y wlad, mae’n brofiad gwerthfawr tu hwnt ac rwy’n mwynhau gwirfoddoli yma.”

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; “Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac rydym bob amser yn ddiolchgar am y gwaith y maent yn ei wneud. Mae’n ffordd wych o ddysgu a chyfrannu i’r Parc ac rydym yn croesawu’r rheiny sydd â diddordeb.”

Os hoffech wirfoddoli, cysylltwch â – Cydlynydd Prosiect Jason Rees

Jason.Rees@beacons-npa.gov.uk

– DIWEDD –