Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cael ei enwebu am nifer o wobrau sy’n cydnabod y gwaith mae’r Awdurdod wedi bod yn ei wneud i fod yn fwy gwyrdd, gan newid cerbydau yn ei fflyd am geir trydan. Mae bron i 50% o fflyd yr Awdurdod bellach yn cael eu gyrru gan drydan.
Yr wythnos ddiweddaf, aeth Kevin Booker ein Swyddog Fflyd a Systemau Technoleg Gwybodaeth i Wobrau Fleet World 2020, ble’r enillodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wobr ‘Financial Superstar’. Roedd y wobr hon am yr unigolyn neu’r tîm wnaeth ddyfeisio’r ffordd fwyaf clyfar ac effeithiol o redeg fflyd o gerbydau am y gost leiaf bosib.’
Cafodd y gwobrau eu penderfynu gan banel o feirniaid profiadol Fleet World oedd am anrhydeddu rhagoriaeth mewn rheoli fflyd o gerbydau yn ogystal ag anrhydeddu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau newydd sydd ar gael a fydd yn ein helpu i redeg fflyd o gerbydau yn fwy diogel, gwyrdd a chost effeithiol.
Cyn ennill y wobr hon, cafodd yr Awdurdod glod hefyd yn The Green Fleet Awards dan faner y categori Fflyd Sector Cyhoeddus y Flwyddyn (bach i ganolig) yn ogystal â derbyn clod uchel yng ngwobrau’r Energy Saving Trust Fleet Hero Awards fel arwyr y car trydan.
Yn ôl Julian Atkins y Prif Weithredwr, “Rydw i’n falch iawn o’r gwaith mae’r Awdurdod wedi bod yn ei wneud i fod yn fwy gwyrdd. Llongyfarchiadau i Kevin am ei holl waith yn gwneud ein fflyd yn fwy gwyrdd a lleihau ôl-troed carbon ein trafnidiaeth. Rydyn ni’n gosod esiampl i Awdurdodau Lleol eraill, nid yn unig drwy newid i geir trydan, ond drwy osod mannau gwefru a phaneli solar PV er mwyn cwrdd â rhai o’n hanghenion trydan hefyd. Yn ein prif Depot, er enghraifft, mae’r aráe solar rydyn ni wedi eu gosod eisoes wedi cynhyrchu 8.75 MWh o drydan yn ystod y flwyddyn gyntaf . Mae hyn yn ddigon o drydan i bweru un o’n cerbydau trydan am 35,000 o filltiroedd.”