Mae prosiect Milltiroedd heb Gamfeydd yn rhan o’r Prosiect Iach, Actif ac yn yr Awyr Agored yn bartneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Sir Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru. Crëwyd Milltiroedd heb Gamfeydd yn wreiddiol fel brand gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd ac ers hynny mae’r syniad wedi cael ei efelychu ar hyd a lled Parciau Cenedlaethol y DU a thu hwnt.
Bwriad prosiect Milltiroedd heb Gamfeydd, Prosiect Iach, Actif ac yn yr Awyr Agored oedd dileu camfeydd ar gyfer pobl sy’n cael trafferth cael mynediad at gefn gwlad o ganlyniad i’r camfeydd. Prif nod y prosiect oedd cael gwared â’r camfeydd a grëwyd gan bobl a darparu llwybrau oedd yn rhydd o gamfeydd er mwyn hybu mynediad i bawb i gefn gwlad. Mae’r gwaith hwn yn gwireddu bwriadau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddarparu cyfle i bawb i ddeall a mwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ogystal â chyfrannu at wireddu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae prosiect Milltiroedd heb Gamfeydd yn canolbwyntio ar yr ardaloedd poblog y tu mewn a thu allan i ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Mae Aberhonddu, Crughywel a Thalgarth o fewn ffiniau’r Parc tra bod Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Y Drenewydd a’r Trallwng y tu allan i ffiniau’r Parc.
Yn ôl Gareth Ratcliffe sef Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chynghorydd Ward y Gelli Gandryll, “Bydd y prosiect hwn oedd yn gweithredu ar y cyd rhwng yr Awdurdod, Cyngor Tref y Gelli Gandryll, Cyngor Sir Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru yn arwain at well mynediad i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn yn ogystal â rhieni ifanc sydd â phlant a phobl sy’n cael trafferth dringo dros gamfa.
Hyd yn hyn, mae Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi newid 52 camfa am gatiau. Mae pont sy’n 12m o hyd wedi’i gosod yn Nolydd Bullpit Crughywel yn lle pont gul oedd yn anodd i bobl mewn cadeiriau olwyn ei chroesi.
Drwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau, y bwriad ydy targedu’r llwybrau hynny sy’n gallu darparu rhwydwaith o lwybrau a fydd yn agored i lawer iawn mwy o bobl. Mae hyn yn cynnwys pobl ag anableddau, anawsterau symud, pobl â theuluoedd ifanc a phobl sy’n mynd a’u cŵn am dro.
Mae Josie Pearson, sydd wedi ennill medal aur Baralympaidd, wedi bod yn rhan o’r pwyllgor llywio ac mae hi’n awyddus i longyfarch y wardeiniaid am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud. “Rydw i mor ddiolchgar i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, eu gwirfoddolwyr, Cyngor Tref y Gelli Gandryll a phawb arall sydd wedi helpu i wneud cefn gwlad yn fwy hygyrch i bawb. Mae gallu cael mynediad i gefn gwlad yn hawl i bawb ar gyfer eu lles corfforol a’u lles meddyliol”.