Yn gynharach fore heddiw (24 Mawrth 2015), daeth bron i 150 o gynrychiolwyr ynghyd yng nghynhadledd tri diwrnod y Cynghreiriau Gwledig, a gynhelir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n nodi diwedd prosiect tair blynedd llwyddiannus i adfywio cymunedau gwledig.
Mae’r gynhadledd, ‘Enterprise and community alliances for rural vibrancy’, a gynhelir yn Neuadd Elim yn Aberhonddu, yn archwilio sut mae Cynghreiriau Gwledig wedi creu partneriaethau sy’n para rhwng mentrau a chymunedau er mwyn adfywio ardaloedd gwledig.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw Partner Arweiniol Prosiect y Cynghreiriau Gwledig, a gydariannwyd gan Raglen INTERREG IVB Gogledd-orllewin Ewrop Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac sydd wedi cynnwys 12 o bartneriaid o bum gwlad wahanol yn gweithio gyda’i gilydd i ganfod atebion i’r heriau y maen nhw i gyd yn eu hwynebu o ganlyniad i newidiadau i ddemograffeg a ffyrdd o fyw a’r dirywiad mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig ledled Gogledd-orllewin Ewrop. Mae’r cyllid Ewropeaidd wedi galluogi’r partneriaid i ddysgu gan ei gilydd a threialu syniadau ar gyfer yr hyn a all helpu i wneud y cymunedau o fewn y prosiect yn gryfach fyth. Mae cysyniad prosiect y Cynghreiriau Gwledig yn seiliedig ar ffurfio grwpiau sy’n cynnwys aelodau mentrau a chymunedau y bydd eu hymdrechion yn adfywio eu cymunedau gwledig. Gallai’r rhain fod yn brosiectau ynni gwyrdd, gwyliau a digwyddiadau, gweithgareddau neu fathau eraill o dwristiaeth sy’n gysylltiedig â chelf.
Meddai Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru, a fydd yn areithio yn y gynhadledd: “Mae’r syniadau mae prosiect y Cynghreiriau Gwledig wedi bod yn eu datblygu yn hynod gyffrous. Rydyn ni angen mwy a mwy o fentrau fel hyn i helpu pobl leol i reoli eu dyfodol eu hunain. Rwy’n cymeradwyo’r gwaith mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi’i wneud, nid yn unig o ran darparu prosiect rhagorol, ond hefyd o ran creu partneriaeth ddeinamig sy’n cyflawni cymaint ar lefel Ewropeaidd.”
Meddai’r Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd, a fydd hefyd yn areithio yn y gynhadledd: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn o’r cychwyn cyntaf. Mae wedi cyflawni llawer ar lefel ryngwladol, yn ogystal ag yn lleol. Yn arbennig, mae’r adnoddau a ddatblygwyd wedi bod yn hynod werthfawr. Mae’r rhain yn cynnwys dull arloesol o fesur bywiogrwydd cymunedau
gwledig. Mae’r arolwg ar-lein hwn yn darparu adborth mewn graffig hawdd ei ddehongli, gan helpu cymunedau i nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu. Mae’r prosiect hefyd wedi datblygu canllaw ar greu Cynghreiriau Menter-Cymuned, llawlyfr ar ffynonellau cyllid eraill a llawlyfr ar ddulliau llywodraethu newydd sy’n cynnwys trawstoriad ehangach o’r gymuned.”
Meddai John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rydyn ni’n cydnabod bod heriau sy’n wynebu cymunedau gwledig yn wahanol i’r rhai yn ardaloedd maestrefol mwyaf poblog Cymru. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae prosiect y Cynghreiriau Gwledig wedi grymuso mentrau a chymunedau gwledig i weithio gyda’i gilydd i greu dros 80 o gynghreiriau bywiog, cynaliadwy a hunangynhaliol ledled Gogledd-orllewin Ewrop. Mae 12 o’r rhain wedi bod ym Mannau Brycheiniog, gyda phob un yn canolbwyntio ar dwristiaeth. Mae mentrau cymunedol y prosiect wedi elwa ar waith rhyngwladol, gan alluogi’r partneriaid i fenthyca syniadau da a rhannu prosesau ledled Ewrop. Mae’r gynhadledd hon yn dathlu cyflawniadau prosiect y Cynghreiriau Gwledig, gan gynnig rhai astudiaethau achos rhagorol o’r cydweithredu gyda’n partneriaid Ewropeaidd, sydd wedi ein helpu ni i greu cynghreiriau newydd a darparu etifeddiaeth sy’n para y gall y cymunedau fod yn falch ohoni.”
Meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae mentrau cymunedol megis y Cynghreiriau Gwledig yn hollbwysig yn y Parc Cenedlaethol er mwyn i gymunedau gyflawni eu potensial economaidd mewn ffordd gynaliadwy. Er enghraifft, mae’r prosiect ‘Totally Locally’ yng Nghrucywel wedi annog 50 o fusnesau lleol i gymryd rhan yn y llwybr deg punt, gan atgoffa pawb bod siopa’n lleol yn sicrhau gwerth da am arian ac yn cadw arian yn yr economi leol.
“Mae rhannu gwybodaeth gyda phartneriaid tebyg ledled Gogledd-orllewin Ewrop a gweithio gyda nhw tuag at amcanion ar y cyd yn brofiad gwych ac wedi cyflwyno llawer o fanteision yn lleol. Rwy’n cymeradwyo partneriaeth y Cynghreiriau Gwledig ar y gwaith y mae wedi’i wneud ac edrychaf ymlaen at ddefnyddio adnoddau fel y Mynegai Bywiogrwydd yn y dyfodol.”
Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei gefnogi i ddarparu’r prosiect hwn yn lleol trwy Arian Cyfatebol a Dargedir gan Lywodraeth Cymru. Mae cymorth hael wedi’i ddarparu gydol y gynhadledd gan Neuadd Elim, Neuadd Buckland, Gwesty’r Castle, Gwesty’r George, Brecon Carreg, Penderyn Whisky a Brecon Brewing.
I gael mwy o wybodaeth am brosiect y Cynghreiriau Gwledig, ewch i www.rural-alliances.eu
-DIWEDD-