Canllawiau newydd ar gyfer datblygu yn y Parc Cenedlaethol

Yn gynharach heddiw (dydd Gwener 27 Mawrth), cyflwynwyd saith Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol i Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda’r nod o sicrhau bod datblygiadau’r dyfodol o ran diogelu Awyr Dywyll, galluogi glampio a datblygiadau priodol yng nghefn gwlad yn gwella a diogelu cymeriad cyfoethog y Parc Cenedlaethol. Derbyniodd yr Aelodau yr holl nodiadau cyfarwyddyd, gan obeithio y byddant yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at y broses gynllunio, ac eithrio un elfen yn ymwneud ag ysguboriau wedi’u haddasu a ohiriwyd er mwyn caniatáu mwy o amser i’r Aelodau archwilio’r canllawiau yn fanwl.

Heddiw yng nghyfarfod Pwyllgor Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gohiriodd yr Aelodau elfen ‘Addasu adeiladau fferm ac adeiladau eraill i fod yn anheddau’ y Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol a elwir yn ‘Galluogi Datblygiad Priodol yng nghefn gwlad’ tan ddyddiad diweddarach, ond cymeradwywyd gweddill y nodiadau cyfarwyddyd sy’n ymwneud ag ystod eang o faterion cynllunio, gan gynnwys:

  • Golau sy’n tarfu
  • Llety Twristiaeth Bach ei Effaith
  • Bioamrywiaeth yn Nhrefi’r Parc Cenedlaethol
  • Diogelu Mwynau
  • Arallgyfeirio ar Ffermydd
  • Datblygu Cynaliadwy ym Mharciau Cenedlaethol Cymru

Roedd ‘Galluogi datblygiad priodol yng nghefn gwlad’ yn cynnwys pedair elfen, sef ‘amnewid anheddau’, ‘estyniadau i anheddau’, ‘adfer anheddau blaenorol’ ac ‘addasu adeiladau fferm ac adeiladau eraill i fod yn anheddau’. Cymeradwyodd yr Aelodau y tair elfen gyntaf, ond roeddent yn teimlo bod angen mwy o drafod mewn perthynas ag ‘addasu adeiladau fferm ac adeiladau eraill i fod yn anheddau’. Clywodd y Pwyllgor gan bedwar aelod o’r cyhoedd a oedd yn poeni am y cynigion a gyflwynir yn y nodiadau cyfarwyddyd ac ystyriwyd yr ymatebion ysgrifenedig a gafwyd gan aelodau’r cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad. Penderfynodd Aelodau’r Awdurdod ohirio eu penderfyniad er mwyn caniatáu amser i drafod ac ystyried y manylion ac effaith y nodiadau cyfarwyddyd hyn. Mae’r ymgynghoriad ar y nodyn cyfarwyddyd hwn wedi peri pryder, yn enwedig mewn perthynas â’r swm y gofynnir amdano ar gyfer tai fforddiadwy o ddatblygu ysguboriau i fod yn eiddo preswyl.

Meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu ymateb i’r materion a nodwyd gan ein Haelodau, y siaradwyr yn y cyfarfod heddiw a’r rhai sydd wedi mynegi eu barn i ni. Fel Aelodau, rydyn ni bob amser yn ceisio cydbwyso anghenion y bobl sy’n byw a gweithio yn y Parc a’r rhai sy’n ymweld â’r Parc, gan weithredu yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru a’r polisïau hynny a amlinellir yn ein Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig. Rwy’n credu bod penderfyniad heddiw i ganiatáu mwy o amser i’r Aelodau drafod goblygiadau llawn addasu ysguboriau gwledig yn un doeth, ac mae’n dangos ein bod ni’n Awdurdod blaengar sy’n gwrando.”

Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn darparu gwybodaeth a chyngor ategol ar y polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig (Rhagfyr 2013). Yn y bôn, cawsant eu cynllunio i helpu unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais am ddatblygiad yn y Parc Cenedlaethol i wybod beth yn union y byddai’n rhaid iddynt ei wneud er mwyn cael cymeradwyaeth ar gyfer eu cais. Yn ei fformatau drafft, ymgynghorwyd yn eang ar y nodiadau cyfarwyddyd – fe’u dosbarthwyd i 47 o gynghorau cymuned ledled y Parc a thros 1,000 o unigolion a sefydliadau ar ein cronfa ddata ymgynghori. Gyda 519 o geisiadau cynllunio wedi’u cyflwyno yn 2014 (cymeradwywyd 91% ohonynt), nod Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw sicrhau y gall y Parc Cenedlaethol barhau i dyfu’n gynaliadwy heb golli ei gymeriad gwledig unigryw a hoff.

-DIWEDD-