Cyfrif grugieir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Dyma’r mis sy’n cychwyn cyfnod cyffrous i wardeiniaid, ecolegwyr a gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol wrth iddyn nhw ddod ynghyd i gofnodi niferoedd grugieir coch yng ngrug yr ucheldir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yn gynharach y mis hwn, daeth oddeutu 30 o gadwraethwyr ynghyd yn wardeiniaid, ecolegwyr, gwirfoddolwyr a wardeiniaid dan hyfforddiant y Parc Cenedlaethol i drefnu pedwar cyfrifiad o’r grugieir yn ardaloedd Y Mynydd Ddu, Drysgol, ac ar rannau gogleddol a deheuol Crib Hatterrall gan ddechrau cyfrifiad cyntaf y Parc Cenedlaethol o’r rugiar goch am y flwyddyn.

Yn ystod yr arolwg, mae cadwraethwyr yn mynd ati i gyfrif pob grugiar a gaiff ei gweld, ond hefyd maen nhw’n olrhain lleoliad unrhyw olion fel tail ac arwyddion eraill y byddan nhw’n eu gweld. Byddan nhw hefyd yn cofnodi tystiolaeth o adar eraill megis y cornicyll aur, y gïach, y gigfran, y cudyll bach a gosogion.  Mae’r wybodaeth hon yn rhoi arwydd o’r lle y bydd yr adar hyn o bosibl yn paru yn y gwanwyn ac yn pennu eu tiriogaeth. Mae cyfrifiadau’r gwanwyn yn dweud wrth gadwraethwyr sawl grugiar sydd wedi goroesi’r gaeaf. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn mae’r niferoedd yn nodi pa mor llwyddiannus y mae’r rugiar yn atgenhedlu. Mae canfyddiadau cynnar yr arolwg yn awgrymu bod poblogaeth y rugiar goch yn parhau’r un fath er ei bod yn rhy gynnar dweud a yw’r boblogaeth wedi tyfu ers cyfrifiad y llynedd. Cynhelir y cyfrifiad nesaf ar Grib Hatterrall yn ystod yr wythnosau dilynol a’r nesaf ddiwedd Mehefin neu ddechrau Gorffennaf 2015. Y gobaith yw y bydd y canlyniadau ar ddiwedd arolygon yr haf yn dangos bod y rugiar goch wedi ymateb yn dda i’r gwaith o reoli grug yr ucheldir a’r gwaith o adfer y mawnogydd.

Mewn blynyddoedd blaenorol roedd y rugiar goch wedi prinhau am fod eu cynefinoedd naturiol yn prinhau, sef gweundir a mawnogydd. Mae newid defnydd tir yn sgil cynnydd coedwigaeth fasnachol a’r diwydiant hamddena, niferoedd da byw yn amrywio a llai o bori ar yr uwchdir, arferion llosgi gwael gyda rhai’n llosgi’n afreolus, newid yn yr hinsawdd a diffyg wrth reoli grug a mawnogydd wedi achosi i’r rugiar a rhywogaethau eraill brinhau yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rugiar goch hefyd yn cael ei lladd gan ysglyfaethwyr fel llwynogod, brain, y carlwm, y wenci, ac adar ysglyfaethus gan gynnwys bodau llwydlas.  Trwy warchod cynefinoedd grug yr uwchdir a chynnal patrymau pori iach, gall hyn gael effaith sylweddol ar eu gallu i oroesi i’r dyfodol. Dangosodd gwaith ymchwil fod y rugiar goch yn rhywogaeth ddangosol dda, a gall cadwraethwyr ddefnyddio unrhyw newid yn eu statws i ddeall cyflwr cynefinoedd gweundiroedd grug yr ucheldir. Mae’r rugiar goch a’i chywion yn dibynnu’n uniongyrchol ar y planhigion sy’n tyfu yno am eu lloches a’u ffynhonnell fwyd.

Yn ôl Bradley Welch, Uwch Ecolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Y rugiar a gweundir grug yw nodweddion allweddol Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) y Mynydd Du. Rydyn ni’n cydweithredu â thirfeddianwyr lleol i sicrhau ein bod yn cadw’r cynefin a’r boblogaeth rugiar mewn cyflwr priodol gan barhau i annog cenedlaethau’r dyfodol i ffynnu. Gan fod y rhywogaethau hyn a chynefinoedd cysylltiedig ar ochr ddeheuol y dosbarthiad daearyddol, gall eu statws a’u cyflwr hefyd ddweud rhywbeth wrthym ni am effeithiau newid yn yr hinsawdd.

“Mae angen grug ar y rugiar ar wahanol adegau o’i bywyd – grug aeddfed yn lloches a grug ifanc i’w fwyta. Mae ein rhaglen ar gyfer rheoli’r ucheldir yn gofyn am gylchdro 20 mlynedd o amrywiol raddfeydd o dorri, llosgi a phori er mwyn cynnal y gymysgedd o gynefinoedd sydd eu hangen i wella’r gweundir ar gyfer y rugiar goch. Mae adar eraill sy’n nythu ar lawr yr ucheldir yn elwa ar y dulliau rheoli hyn, felly bydd cyfanswm y grugieir yn rhoi syniad i ni o statws rhywogaethau eraill heb orfod mynd ati i gyfrif yr holl wahanol adar eraill yn yr ardal. Gydag amser, ein gobaith yw y bydd gwelliant cyson yn rhai o nodweddion bywyd gwyllt a chynefinoedd yr uwchdiroedd hyn, gan weld cynnydd yn niferoedd y grugieir.”

Meddai Mrs Margaret Underwood, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae prinder poblogaeth y rugiar goch wedi bod yn gryn ofid i’n hadran gadwraeth ers blynyddoedd lawer. Rwyf wedi fy nghalonogi fod canlyniadau cynnar cyfrifiad y Gwanwyn yn awgrymu nad yw’r boblogaeth wedi mynd yn brinnach ond y prawf gwirioneddol wrth symud ymlaen fydd dysgu a yw’r mesurau rydyn ni wedi’u cyflwyno yn galluogi’r rhain a rhywogaethau eraill i wella yn y modd y gobeithiwn y byddant. Rydym wedi’n calonogi’n fawr fod y perchnogion sy’n pori’r tir yn awyddus i gydweithio â ni i wella’r gymysgedd o gynefinoedd grug sydd eu hangen ar y rugiar ac adar eraill er mwyn ffynnu. Mawr obeithiaf y bydd y rhaglen losgi dan reolaeth a’r patrymau pori y gobeithiwn eu gweithredu gyda’n gilydd yn sicrhau y bydd mwy o rugieir coch yn nythu ar Grib Hatterall”

-DIWEDD-