Cynhadledd Twristiaeth y Parc Cenedlaethol 2018

Mae prif dymor ymwelwyr 2018 yn prysur nesáu, ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mewn cydweithrediad â Twristiaeth Bannau Brycheiniog, wedi trefnu cynhadledd ar destun twristiaeth i’w chynnal am 9:30yb ddydd Mercher y 7fed o Chwefror yn Neuadd Bentref Llangynidr.  

Anelir y gynhadledd at fusnesau sy’n ymwneud ag ymwelwyr, gan ddarparu gwybodaeth sylfaenol ac ysbrydoliaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Bydd Claire Chappell, Pennaeth Brand Croeso Cymru, yn cyflwyno’r ymgyrchoedd marchnata twristiaeth cenedlaethol – ‘Down to the Sea’, ‘Ffordd Cymru’ a ‘Blwyddyn o Ddarganfod’.

Yn ogystal â hyn, cynhelir gweithdai, cyflwyniad i drafod yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni, a gwerthusiad o weithgareddau’r wasg yn 2017. Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd yn cyhoeddi rhai o’u prosiectau newydd, gan gynnwys Partneriaeth y Mynyddoedd Duon a Geobarciau’r Iwerydd, a chyfle i drafod materion amserol a phynciau llosg.

Bydd y gynhadledd yn cael ei hagor a’i chloi gan y Swyddog Prif Weithredol newydd, Julian Atkins, a ddywedodd; “Dyma gyfle gwych i gyflwyno a thrafod y prif faterion sy’n ymwneud â thwristiaeth o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rydym ni yma yn y Parc wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am y prif dymor twristiaeth, ac ynghyd â’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru mae gennym sawl prosiect i’w cyflwyno, a byddwn yn annog busnesau i fod yn rhan ohonynt. Cynaladwyedd economaidd yw un o’n hamcanion allweddol ni, ac rydym yn deall pwysigrwydd diwydiant twristiaeth unedig.”

Bydd tocynnau’r digwyddiad yn costio £13.14, gan gynnwys cinio – ewch i’r wefan isod os am archebu os gwelwch yn dda:

https://www.eventbrite.com/e/brecon-beacons-tourism-conference-2018-ticket-tickets-41383592439

– DIWEDD –