Gyda’r tywydd cynnes, heulog a sych yr ydym wedi bod yn ei fwynhau’n ddiweddar, ac wrth i reolau’r cyfyngiadau ddechrau cael eu llacio yng Nghymru, mae’r neges wedi newid o “arhoswch gartref” i “arhoswch yn lleol”, sydd i’w weld yn gyfle perffaith i ddechrau mwynhau’r cefn gwlad a’r traethau gwych sydd gennym i’w cynnig. Fodd bynnag, ers y cyhoeddiad ar ddydd Gwener 29 Mai, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi mynychu dros 98 o danau glaswellt a gafodd eu cynnau naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol.
Gan gydnabod yr effaith y mae’r tanau hyn yn ei chael ar ein cymunedau, mae GTACGC yn gweithio mewn partneriaeth â’r pedwar Awdurdod Lleol, Heddlu Dyfed Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw mewn ymgais i fynd i’r afael â’r broblem hon a diogelu’r amgylchedd hanesyddol, y cynefinoedd naturiol a’r cefn gwlad o’n cwmpas.
Yn ystod yr haf, gall glaswellt a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy’n golygu y bydd tân y byddwch yn ei gynnau’n fwriadol neu’n ddamweiniol yn lledaenu’n gyflym iawn, gan ddinistrio popeth sydd o’i flaen. Ar y cyfan, ni chaiff y niwed i’r dirwedd o amgylch, na’r effaith ar nodweddion hanesyddol, cynefinoedd na bywyd gwyllt, eu cydnabod.
Dywedodd Huwel Manley, Rheolwr Gweithrediadau Tir ac Asedau De-orllewin Cymru ar gyfer CNC:
“O ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym oll yn eu hwynebu, tanau gwyllt yw’r peth olaf y mae eu hangen ar dirwedd Cymru. Mae’r tanau gwyllt yr ydym wedi eu gweld yn ystod y cyfnod hir o dywydd sych, wedi achosi difrod sylweddol i goedwigaeth a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a reolir gan CNC, a gallant gael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt a’r amgylchedd lleol.
“Mae CNC yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth tân ac achub, yr heddlu a phartneriaid eraill i helpu i atal tanau, a hynny trwy Ymgyrch Dawns Glaw. Pan fydd tanau’n llosgi ar dir yr ydym yn ei reoli, rydym yn cefnogi’r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn unrhyw ffordd bosibl, gan gynnig gwybodaeth leol a chymorth ymarferol i’w helpu i ddiffodd tanau mewn modd effeithiol.”
Rydym yn annog aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhagofalon a dilyn y cyngor ar ddiogelwch isod.
- Diffoddwch sigaréts a deunyddiau smygu eraill yn gywir – peidiwch â’u taflu allan o ffenestri ceir.
- Defnyddiwch farbeciws mewn ardaloedd addas a diogel yn unig; peidiwch byth â’u gadael heb neb yn cadw golwg arnynt, a diffoddwch nhw’n iawn bob amser.
- Peidiwch â chynnau tanau yng nghefn gwlad – mae llystyfiant sych yn golygu y bydd tanau’n lledaenu’n gyflym ac yn hawdd.
- Sicrhewch fod eich barbeciw yn gweithio’n iawn cyn i chi ei ddefnyddio.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael i’ch barbeciw oeri cyn cael gwared arno neu ei symud.
- Peidiwch byth â chynnau tanau agored yng nghefn gwlad.
Dywedodd Richie Vaughan-Williams, y Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:
“Mae cynnau tanau bwriadol yn anghyfreithlon ac yn anghyfrifol. Yn weithredol, mae tanau gwyllt yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i nifer o griwiau weithio’n galed gyda’i gilydd a rhannu cyfarpar, a hynny ar dirwedd anodd. Mae hyn yn achosi pryder wrth i ni geisio rhoi gweithdrefnau cadw pellter ar waith cymaint â phosibl er mwyn diogelu’r criwiau hyn. Hoffem apelio arnoch i’n helpu ni a’r gwasanaethau hanfodol eraill i atal y digwyddiadau hyn.”
Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:
“Gall tanau achosi dinistr a difetha bywydau. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i fod yn feddylgar o’r bobl eraill, yr anifeiliaid, y cynefinoedd naturiol a’r adeiladau sydd o’n cwmpas. Rydym yn ddiolchgar i’n trigolion sy’n cadw ein cymunedau’n gryf ac yn gydnerth yn ystod y cyfnod heriol hwn, a hynny trwy gymryd y rhagofalon cywir a dilyn cyngor ar ddiogelwch mewn perthynas â thanau a barbeciws.”
Dywedodd Gwilym Hughes, pennaeth gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Cymru, Cadw:
“Gall tanau achosi niwed sylweddol i adeiladau hanesyddol ac archaeoleg o dan y ddaear. Pan fydd tystiolaeth o’n gorffennol yn cael ei difrodi, bydd wedi mynd am byth. Er bod henebion Cadw ynghau i ymwelwyr ar hyn o bryd, mae yna fynediad agored i’r rhan fwyaf o safleoedd hanesyddol Cymru, ac maent yn agored i ddifrod. Mewn rhai achosion, maent wedi bodoli ers miloedd o flynyddoedd – helpwch ni i sicrhau eu bod yn parhau i oroesi.”
Dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro:
“Mae tanau gwyllt yn hynod o beryglus, a gallant ledaenu’n gyflym gan gael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt a’r amgylchedd – maent yn peryglu bywydau ac yn achosi difrod sylweddol i eiddo. Maent yn annerbyniol ar unrhyw adeg, ond yn enwedig yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud oherwydd Covid-19 pan fo adnoddau’r gwasanaethau brys yn hanfodol ar gyfer diogelu’r cyhoedd. At hynny, hoffwn ddiolch i gymunedau Sir Benfro am barhau i fod yn gyfrifol yn ystod y tywydd cynnes diweddar trwy ddilyn cyngor ar ddiogelwch mewn perthynas â thanau a barbeciws.”
Dywedodd Rhys Jones, Arolygydd Dros Dro Heddlu Dyfed Powys:
“Mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol, ac rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n partneriaid i fynd i’r afael â’r mater. Nid yn unig y mae’r tanau hyn yn achosi perygl sylweddol i ddiogelwch ein cymunedau, ond, yn rhy aml o lawer, rydym hefyd yn dyst i fywyd gwyllt a chynefinoedd sydd o bwys cenedlaethol yn cael eu dinistrio o ganlyniad. Mae’r tanau anghyfreithlon hyn yn peryglu bywydau ac eiddo, a gellir eu hosgoi yn llwyr. Maent yn anrhagweladwy a gallant ledaenu’n gyflym. Gwyddom fod y mwg o danau yn gallu cael effaith fawr ar gymunedau lleol, gyda’r mwg yn mynd i mewn i’w tai am oriau ar y tro gan waethygu cyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, megis asthma, a hynny ar adeg pan ddylem fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yn iach a diogelu ein GIG.
“Mewn partneriaeth â’r Tîm Lleihau Tanau Bwriadol, rydym yn ymchwilio’n drylwyr i achosion o danau bwriadol er mwyn enwi’r bobl sy’n gyfrifol, a gofynnwn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddigwyddiadau o’r fath gysylltu â’r heddlu naill ai ar-lein: http://bit.ly/DPPReportOnline, trwy e-bost: contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk neu drwy ffonio 101. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun i’r rhif di-argyfwng ar 07811 311 908. Gallwch hefyd roi gwybodaeth, yn ddienw, i Crimestoppers ar 0800 555 111.”
Mae angen i ni gydweithio i gefnogi ein cymunedau yn ystod yr epidemig COVID-19, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch ein teulu a’n ffrindiau, ein cymdogion, aelodau o’r cyhoedd a’n Gwasanaethau Brys. Mae tanau glaswellt bwriadol yn lleihau ansawdd aer ac yn tynnu gwasanaethau brys gwerthfawr i ffwrdd o ddigwyddiadau achub bywyd, felly rydym yn apelio ar bawb i’n helpu ni i’w helpu nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.