Y Bannau Brycheiniog a finnau – cystadleuaeth ysgrifennu y Bannau

Â’r Bannau ar ei gorau yn ystod y gwanwyn a thrigolion y Parc gydag amser ar eu dwylo o ganlyniad i’r llwyrgloi, mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhoi cyfle iddynt ysgrifennu yn y Gymraeg am eu milltir sgwâr. Er mwyn dathlu gogoniant y dirwedd a byd natur yn ystod mis Mehefin mae Awdurdod y Parc yn awyddus i drigolion o bob oed fynd ati i gystadlu yn y Gymraeg.

Yr hyn hoffai’r Awdurdod glywed amdano yw pam fod cornel fach neu’r cyfan o Barc y Bannau yn arbennig. Rydym yn gwybod bod ardaloedd lleol yn bwysig i drigolion a dyma gyfle i ni glywed mwy am pam eu bod nhw’n arbennig. Croeso i gystadleuwyr fynegi hyn mewn darn byr rhwng 50 a 500 gair a all fod yn gerdd, yn flog, yn ysgrif, yn erthygl, yn gerdyn post neu’n bwt ar gyfer gweplyfr (facebook). Bydd enillwyr cyntaf, ail a thrydydd y categorïau oed gwahanol yn ennill tocyn anrheg gwerth rhwng £50 a £15 i’w gyfnewid am eitem o grefft hyfryd neu gynnyrch gwahanol yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ger Libanus.

Dywedodd Cyng Edwin Roderick, Pleidiwr dros yr Iaith Gymraeg ar Awdurdod y Parc: “Er gwaetha’ diflastod sefyllfa Covid-19 a’r angen i aros adre’ rydym wedi bod yn ddigon ffodus i allu mwynhau’r Parc yn dadebru o drwmgwsg y Gaeaf i ogoniant y Gwanwyn. Rydym yn Awdurdod y Parc yn edrych ymlaen at ddarllen disgrifiadau trigolion o bob oed o hyn a throsglwyddo gwobrau cyffrous i’r enillwyr.’

Mae’r gystadleuaeth yn agored i siaradwyr Cymraeg o bod oed a dysgwyr. Y categorïau yw: dros 25 mlwydd; 18 – 25 mlwydd; 11 – 18 mlwydd; o dan 11 mlwydd a dysgwr. Y manylion pwysig yw bod angen anfon eich darn at: WelshLang@beacons-npa.gov.uk neu yn y post at: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambria, Aberhonddu, Powys LD3 9TW gan nodi’r categori a’ch manylion cyswllt erbyn 30 Mehefin.

P’un ai bod trigolion yn hiraethu yn ystod y llwyrgloi neu’n caru eu bro yn ystod y llwyrgloi mae Awdurdod y Parc yn awyddus i bobl gysylltu gyda’u amgylchedd drwy gystadlu.