Llosgi dan reolaeth i ddiogelu rhag tanau gwyllt

Efallai fod trigolion ardal Trap, wrth droed y Mynydd Du, wedi cael braw wythnos diwethaf o weld tân yn llosgi ar gomin Mynydd Isaf ger Castell Carreg Cennen – ond y tro hwn, tân bwriadol a llesol ydoedd. Dan drefniant Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, daeth dros ddeugain o gominwyr cofrestredig, yn cynrychioli Cymdeithasau’r Porwyr o bob cwr o’r Parc Cenedlaethol ac ymhellach, at ei gilydd yn ogystal â thirfeddianwyr a swyddogion y Llywodraeth. Fe gawson nhw hyfforddiant am ddim ar reoli llosgi grug a glaswellt sydd, credwch neu beidio, yn hollbwysig i reoli ucheldiroedd y Parc Cenedlaethol.

Darparwyd hyfforddiant am ddim gan Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Mr Bernard Llewellyn, perchennog Castell Carreg Cennen, er mwyn cynghori pobl ar ddulliau llosgi rhostir cyfrifol yn ogystal ag ymateb yn effeithiol i achosion o danau gwyllt a thanau bwriadol.  Daeth cynrychiolwyr Gymdeithasau Pori Trap a Llandyfân, Mynydd Du (Gorllewin), Pedol Twrch Glanaman, Palleg a Garreg Goch, Porwyr y Mynydd Du, Mynydd Myddfai, Porwyr Llyn y Fan a Chymdeithas Pori Mynydd Mallaen i’r sesiwn hyfforddi, ynghyd â swyddogion tîm Glastir Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru – sy’n golygu mai dyma’r un o’r digwyddiadau hyfforddiant tân mwyaf a gynhaliwyd yn ardal y Bannau.

Fel rhan o’r arddangosiad llosgi dramatig ar Fynydd Isaf, fe losgodd bloc 3 hectar o rostir Molinia yn bennaf, yn gyflym ac effeithiol iawn dan amodau hynod reoledig gyda’r strimyn atal tân wedi’i greu ymlaen llaw islaw’r tân yng nghyfeiriad y gwynt. Roedd yr hyfforddiant ymarferol yn rhoi cyfle i bawb brofi a rheoli tân rhostir agored a hefyd cyfrannu at waith cadwraeth cynefin hanfodol i Fynydd Isaf, tir pori traddodiadol i ddefaid, gwartheg a merlod ers cannoedd o flynyddoedd. Parodd yr holl arddangosiad llosgi am oddeutu dwy awr, ac aeth popeth rhagddo’n ddidrafferth.

Roedd y cwrs di-dâl hwn, un o ddau a drefnwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn bosibl diolch i grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe’i trefnwyd i ategu gwaith cadwraeth yr ucheldir a gynhaliwyd gan borwyr y Mynydd Du dan sawl cytundeb cynllun Tir Comin Glastir. Mae gwaith ychwanegol yn cynnwys adfer corlannau defaid mynydd, rheoli llosgi grug a Molinia, cynaeafu tocion a hadau grug i’w defnyddio i ddiogelu ardaloedd o fawn moel, a rheoli rhedyn i wella rheolaeth da byw. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gwneud y gwaith hwn – na all cominwyr cofrestredig ei wneud heb ganiatâd y tirfeddiannwr – dan gytundeb lefel gwasanaeth â Chymdeithasau Cominwyr Glastir.

Siaradodd yr Athro Stefan Doerr o Brifysgol Abertawe â chynrychiolwyr yn y digwyddiad, gan esbonio manteision llosgi grug a glaswellt mewn modd cyfrifol ac wedi’i gynllunio’n dda er budd bioamrywiaeth, dal a storio carbon a phori da byw. Meddai, “Mae llosgi cynefinoedd dan reolaeth yn bwysig i gynnal a chadw cynefinoedd naturiol a lleihau’r grug a llystyfiant sych sydd, o’u gadael heb eu llosgi, yn cyfrannu’n sylweddol at yr holl danau gwyllt niweidiol a welwyd yng Nghymru yn y blynyddoedd diweddar. Yn rhyfeddol, mae hefyd yn helpu i ddal a storio carbon ymhlith y gweddillion carbon heb losgi. Mae hyfforddi pobl i ddefnyddio dulliau’r dynion tân a rheolwyr tir a hyfforddwyd yn broffesiynol wedi profi’n ffordd effeithiol iawn i helpu i adfywio bywyd gwyllt – mae’r rhan fwyaf o laswelltau yn tyfu o fewn ychydig fisoedd, ac mae’r rhostir wedi’i adfer yn llwyr o fewn blwyddyn fel arfer ac yn ddelfrydol i bori – heb y llystyfiant diangen. Y gamp yw llosgi ar raddfa digon mawr i osgoi achosion o orbori lleol a pheidio â llosgi’n rhy aml, a allai ddifa planhigion pwysig y rhostir.

Fe wnaeth Nigel Gibbard o Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin, ynghyd â Paul Chapman a Toby Small o Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddangos manteision cynllunio llosgi dan reolaeth ymlaen llaw, gan ddweud bod angen hysbysu’r Gwasanaeth Tân ac Achub cyn cychwyn, ac ar ôl gorffen llosgi, gofalu fod yr offer cywir a nifer o gynorthwywyr wrth law, eich bod wedi rheoli’r holl risgiau a bod y math o waith llosgi, a graddfa’r llosgi a fwriedir, yn bosibl ar y diwrnod hwnnw. Pwysleisiwyd pwysigrwydd creu strimynnau atal tân, sy’n golygu naill ai creu strimynnau trwy dorri lleiniau digon eang neu ddefnyddio dulliau llosgi tactegol i greu’r strimynnau hyn, gydag ewyn deunydd gwrthdan ecogyfeillgar wrth gefn lle bo modd – y cyfan yn darparu strimynnau diogel y mae’r tân yn llosgi tuag atynt.

Y llynedd, ymatebodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin i 1,210 o danau gwyllt, gyda 1,185 ohonynt wedi’u cynnau’n fwriadol. Y ffaith syml amdani yw bod hyd yn oed tanau gwair dan reolaeth yn beryglus os na chânt eu cynllunio a’u rheoli’n gywir. Maen nhw’n cynhyrchu tanau eithriadol o boeth sy’n gallu ymledu’n sydyn a mynd allan o reolaeth. Trwy ddarparu hyfforddiant ac arbenigedd er mwyn gorffen llosgi’n saff ac effeithiol, rydym yn gobeithio cyflwyno’r dull a’r modd i dirfeddianwyr a phorwyr reoli eu tir, a’u tir pori, yn ddiogel a chyfrifol,” meddai Nigel Gibbard.

Fel un o’r partneriaid blaenllaw sy’n cefnogi’r cynllun hyfforddi, meddai Joanne Rees, Rheolwr Contract Glastir:  “Roedd y cwrs hwn, a oedd yn ategu partneriaeth ragorol Glastir, yn trafod pob agwedd ar ddefnyddio llosgi dan reolaeth fel dull o reoli’r mynydd-dir a’r rhostir, a phwysigrwydd llosgi ar yr adeg gywir o’r flwyddyn dan yr amodau cywir, er mwyn osgoi tanau gwyllt sy’n aml yn niweidiol i fywyd gwyllt, pori ac eiddo. Roedd yn hynod ddefnyddiol dysgu am y penderfyniadau sy’n rhaid eu gwneud ar y diwrnod ei hun, gan gynnwys yr angen i newid cynlluniau yn unol â’r amodau tywydd cyffredinol a chyflwr y tir. Yn ffodus, roedd y tywydd yn berffaith i ni losgi fel y trefnwyd, a chwmpasu holl faterion ymarferol llosgi dan reolaeth ar safle.”

Meddai Toby Small, Warden Ardal ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Mae bron i 50,000 hectar o gynefin bywyd gwyllt ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dir comin a phori’r ucheldir, felly mae llosgi dan reolaeth gyda’r dulliau pwysicaf yn ein rhaglen waith. Mae llosgi dan reolaeth yn cyflawni tri o brif amcanion rheoli rhostir. Yn gyntaf, mae llosgi yn cyfyngu ar dwf llystyfiant coediog a rhai diangen eraill, ac felly’n sefydlu llystyfiant o oedran ac uchder amrywiol, sy’n darparu porfa ddigonol i dda byw ac amodau o’r newydd i fywyd gwyllt y rhostir. Yn ail, mae llosgi dan reolaeth yn defnyddio’r deunydd marw a llystyfiant diangen, fel Molinia, sydd nid yn unig yn anfwytadwy i dda byw yn y cam hwn, ond sydd hefyd yn peri risg sylweddol i fywyd gwyllt dros fisoedd yr haf. Mae llosgi yn sbarduno twf o laswellt newydd a, chyn belled â bod y lefelau pori yn cyd-fynd â’r ardaloedd a losgwyd, hefyd yn caniatáu i blanhigion rhostir eraill i ymsefydlu. Mae’r twf newydd hwn hefyd yn hyrwyddo pryfed, sy’n ffynhonnell fwyd hanfodol i’r ehedydd, y rugiar, ac adar prin eraill sy’n nythu ar y ddaear gan gynnwys hutan y mynydd a’r corgwtiad aur, sy’n dibynnu ar ein rhostiroedd fel tiroedd bridio a’u hunig ffynhonnell fwyd. Yn olaf, bydd gweithio gyda thimau o borwyr a thirfeddianwyr i losgi dan reolaeth yn gwneud cyfraniad aruthrol tuag at rwystro’r tanau gwyllt dinistriol a welsom dros y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanegodd Mr Bernard Llewellyn, aelod o Fwrdd Materion Gwledig NFU Cymru, “Yn 2011, cawsom un o’r tanau ucheldir gwaethaf yn hanes y Parc Cenedlaethol, nepell o’r ardal hon. Fel porwyr a cheidwaid, mae cyfrifoldeb arnom i warchod yr ucheldiroedd a lleihau’r peryglon tân bwriadol a thanau gwyllt yn ystod hafau sych a phoeth. Un peth a ddysgom, yw bod llosgi dan reolaeth yn creu sawl canlyniad, yn dibynnu ar ba adeg o’r flwyddyn rydych chi’n llosgi a beth ydych chi am ei wneud gyda’r dirwedd. Fel cynrychiolydd yr NFU, rydym yn hynod ddiolchgar am y cyrsiau hyfforddi hyn a drefnwyd gyda’r nod o helpu porwyr a thirfeddianwyr i gynnal gwaith llosgi cyfrifol dan reolaeth mewn cydweithrediad â wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol a sefydliadau proffesiynol eraill.”

-DIWEDD-