Ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’u diweddaru’n ddigidol

Mae ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’u dehongli’n ddigidol am y tro cyntaf ers ei ddynodi’n 1955 ac o ganlyniad i brosiect partneriaeth dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn gynharach yr wythnos hon, cwblhaodd y ddau sefydliad y prosiect ar y cyd sy’n sicrhau bod mapiau digidol yn adlewyrchu ffiniau dynodedig y Parc Cenedlaethol yn gywir. Mae’r Awdurdod wedi ysgrifennu at berchnogion eiddo a all gael eu heffeithio gan y newidiadau  hyn i’r ffiniau. Bydd y gwelliannau’n golygu bod eiddo y credwyd yn wreiddiol eu bod y tu allan i’r Parc Cenedlaethol bellach yn gorwedd y tu fewn i’r ffin, ac fel arall.

Hyd yma, roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Arolwg Ordnans yn gweithio o’u copïau digidol eu hunain o’r ffin a gynhyrchwyd yn y 1990au. Ond pan sylweddolodd y tri sefydliad bod y ffiniau’n wahanol ar y tri map, penderfynwyd cytuno ar ffin bendant. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cynhyrchu dehongliad cywir o’r ffin, dehongliad y gall pob tirfeddiannwr ei ddefnyddio er mwyn rheoli’r Parc Cenedlaethol a’i adnoddau.

Meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Mae cytuno ar fap ffiniau cywir a chynhwysfawr y gall pawb ei ddefnyddio wedi bod yn dipyn o gamp i’r holl sefydliadau a fu’n rhan o’r broses. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn defnyddio mapiau bod dydd ar gyfer ei holl swyddogaethau, o gynllunio datblygiadau i reoli materion hamdden, ac rydym yn falch iawn y bydd y map ffiniau digidol hwn o gymorth nid yn unig i’n hadrannau mewnol ond hefyd sefydliadau eraill sy’n defnyddio’r ffin ar gyfer eu gwaith ac er mwyn rheoli tir hefyd.”

Dywedodd Shaun Lewis, Swyddog System Gwybodaeth Ddaearyddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol:  “Nid oedd y dogfennau dynodi gwreiddiol yn ddigon manwl i ni allu gwneud rhai o’r penderfyniadau angenrheidiol ac roeddem angen creu ffiniau digidol a chywir er mwyn sicrhau bod digon o eglurder o ran ble’n union mae’r llinell derfyn ar lawr gwlad. Mae yna adeiladau a thiroedd wedi’u heffeithio, er enghraifft adeiladau sydd o fewn y Parc Cenedlaethol erbyn hyn, lle arferai Awdurdod y Parc Cenedlaethol gredu eu bod y tu allan i’r Parc. Yn yr un modd, mae yna adeiladau sydd y tu allan i’r Parc Cenedlaethol y credwyd eu bod y tu mewn i’r ffin o’r blaen. Rydym wedi ceisio cysylltu â holl berchnogion eiddo i esbonio’r broses, a nodi os yw’r newidiadau hyn wedi effeithio ar eu heiddo nhw.”

“Os ydych chi’n amau bod y newid hwn yn effeithio ar eich eiddo chi, ond heb dderbyn llythyr gennym, yna cysylltwch â mi’n uniongyrchol trwy e-bostio shaun.lewis@breconbeacons.org neu ffonio 01874 624437.”

-DIWEDD-