Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog y dydd Sadwrn hwn

Bydd Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog yn agor ei ddrysau yn Neuadd y Farchnad, Aberhonddu, y dydd Sadwrn hwn, y 1af o Hydref o 10yb hyd 5yp. Mae’r ŵyl, sydd nawr yn ei 19eg blwyddyn yn addo dewis gwych o fwyd a diod lleol – rhai o’r gorau y gallwch ddod o hyd iddynt ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

brecon-beacons-food-festival-this-saturday

Gall y sawl fydd yn mynychu’r ŵyl edrych ymlaen at flasu amrywiaeth o gynnyrch o fara, cwrw a chaws i Bicau ar y Maen gyda’r rhan helaeth o’r cynnyrch yn teithio llai o filltiroedd na’r ymwelwyr i fod yno. Bydd yr uchafbwyntiau yn cynnwys arddangosfeydd coginio gan gogyddion sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys y cogydd nodedig, Nerys Howells am 11yb, Ryan Jones a Colin Grey, Cogyddion y Gemau Olympaidd Coginiol am hanner dydd a Shaun Bailey am 1yp.

Bydd yr adloniant yn parhau i’r prynhawn gyda Derek Brockway a Sue Charles o Dîm Tywydd BBC Cymru am 2yp a chystadleuaeth Bake Off arbennig Aberhonddu gyda rhyw binsiad o gomedi wedi ei ychwanegu ato am 3yp. Am 3.45yp bydd cogydd o Ysgol Uwchradd Gwernyfed yn dirwyn diwrnod llawn adloniant i ben.

Yn ôl Andrew Powell, Trefnydd yr Ŵyl Fwyd a Rheolwr Arlwyo Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Mae’r Ŵyl Fwyd bob amser yn ddigwyddiad poblogaidd. Mae’n ddiwrnod i’w fwynhau i bawb ac mae’n ymwelwyr yn dychwelyd adre â llond eu bagiau siopa o gynnyrch blasus Cymreig. Bydd yr ychwanegiad o gerddoriaeth gan Little West-enders, Côr Meibion Talgarth, Côr Merched Llanfair ym Muallt a Tony Royale yn rhoi rheswm ychwanegol i chi ymweld â’r ŵyl y dydd Sadwrn hwn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Mae’n uchafbwynt yng nghalendr y sawl sydd wrth eu boddau â bwyd ac ni ddylid ei golli ar unrhyw gyfri. Mae ei amseriad yn ystod tymor y cynhaeaf yn berffaith ac mae’r bwyd a’r diod sydd ar gael ar eu gorau. Mae Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog yn ddiwrnod.

Cefnogir yr wŷl gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cynllun Grant Gwyliau Bwyd a Diod

-DIWEDD-