Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno coed derw ifanc i fudiad y ffermwyr ifanc

Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri wedi ymuno â’i gilydd gyda Chwmni Coedwigaeth Tilhill i roi derwen ifanc i bob aelod o Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI Cymru), er mwyn dathlu pen-blwydd y mudiad yn 80 oed.
Yn draddodiadol, mae pen-blwydd yn 80 oed yn cael ei symboleiddio gan dderwen anferth oherwydd ei bod yn darparu cynefin sy’n gyfoethog mewn bioamrywiaeth, a gwelwyd bod y dderwen yn anrheg ddelfrydol i ddathlu’r garreg filltir arwyddocaol hon yn hanes y mudiad ieuenctid gwledig mwyaf yng Nghymru.
Dywedodd Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coetiroedd ac Amaeth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Gyda phleser mawr yr ydym ni’n gallu helpu i ddathlu’r pen-blwydd arwyddocaol hwn, oherwydd bod CFfI Cymru yn chwarae rhan mor bwysig a blaenllaw ym mywydau cymaint o bobl ifanc drwy’r wlad.
“Mae coed derw yn bwysig i dirwedd a chynefin Cymru a bydd y rhodd hon yn gwella’r ddau ohonyn nhw am nifer o flynyddoedd yn y dyfodol.”
Mae’r coed ifanc, sydd wedi dod o Gwmni Coedwigaeth Tilhill, i gyd yn goed brodorol o stoc ranbarthol sy’n addas i Gymru.
Er mwyn coffáu’r rhodd pen-blwydd hwn, plannwyd coeden dderwen ddefodol ar Faes y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd yn ystod Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol.
Dywedodd Iwan Lloyd-Williams, Rheolwr Rhanbarthol Tilhill: “Mewn cydweithrediad â’r Parciau Cenedlaethol, y mae Tilhill yn hapus i gefnogi CFfI Cymru i ddathlu eu pen-blwydd yn 80 oed.
“Dyma gyfle ffantastig i gefnogi’r mudiad drwy blannu coed a hyrwyddo coedwigaeth fel dewis hyfyw ar gyfer arallgyfeirio yn ogystal â gwella bioamrywiaeth.”
Dywedodd Nia Lloyd, Cyfarwyddwr CFfI Cymru: “Hoffai CFfI Cymru ddiolch i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro a Tilhill am eu cefnogaeth o roddi coeden dderw i bob aelod o CFfi Cymru.”
Ychwanegodd Aled Jones, Prif Weithredwr Cynorthwyol, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: “Rydym ni wrth ein boddau’n cefnogi CFfI Cymru yn eu dathliadau pen-blwydd yn 80 oed, a bydd plannu derwen ar faes y sioe yn arwydd symbolaidd er mwyn tynnu sylw at y cysylltiadau cryf rhwng ffermwyr ifanc a’r Sioe Frenhinol.
“Mae gan lawer ohonom ddyled fawr am ein datblygiad personol i fudiad y Ffermwyr Ifanc ac rydym ni’n hyderus y bydd yn parhau am 80 mlynedd ymhellach a mwy.”
Diwedd