Mae llythyr agored a lofnodwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac RSPB Cymru yn tynnu sylw at y niwed y gall gwersylla anghyfreithlon ei wneud i’r amgylchedd lleol a’r cymunedau cyfagos ac yn annog gwersyllwyr i ddod o hyd i safleoedd swyddogol ac archebu eu lle ymlaen llaw.
Mae achosion o wersylla anghyfreithlon, sef pan mae gwersyllwyr yn gosod pebyll neu’n parcio carafanau neu gartrefi modur ar dir heb ganiatâd, wedi bod ar gynnydd dros yr haf, yn enwedig ym mharciau cenedlaethol, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur Cymru.
Nid yn unig y mae gwersylla anghyfreithlon yn erbyn y gyfraith pan gaiff ei wneud heb ganiatâd y tirfeddiannwr, mae wedi arwain at ddifrod amgylcheddol, gorlenwi, pryderon o ran iechyd y cyhoedd, sbwriel, a chynnydd yn y tebygolrwydd o danau gwyllt.
Gydag effeithiau posibl y coronafeirws yn dal i fod yn bryder mawr, mae’r gynghrair wedi dod at ei gilydd i annog y rhai sydd am wersylla dros nos yng Nghymru y penwythnos hwn i ymddwyn yn gyfrifol ac aros mewn gwersyllfaoedd dynodedig yn unig.
Yn y llythyr, maen nhw’n dweud:
“Mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol a brawychus mewn achosion o wersylla anghyfreithlon yr haf hwn, yn enwedig mewn safleoedd yn ein Parciau Cenedlaethol, ein coetiroedd a chefn gwlad. Heblaw am y ffaith ei fod yn drosedd, mae’r cynnydd mewn achosion o wersylla anghyfreithlon yn niweidio ein hamgylchedd, ein bywyd gwyllt, y sector twristiaeth a’n cymunedau lleol sydd i gyd yn adfer yn sgil effeithiau’r pandemig.
“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu, felly mae angen i bawb fod yn wyliadwrus o hyd a Chadw Cymru’n Ddiogel drwy ddilyn canllawiau’r Llywodraeth ar olchi dwylo a chadw pellter cymdeithasol. Gall gwersylla anghyfreithlon ei gwneud hi’n anodd dilyn y canllawiau hyn.”
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae Cymru’n gartref i fannau awyr agored andros o hardd ac er ein bod yn annog pawb i fynd allan a’u mwynhau, rydym am i bobl wneud hyn yn ddiogel, yn gyfreithlon a heb niweidio’r amgylchedd.
“Rydyn ni’n gwybod bod y cyfnod clo wedi bod yn galed ar bawb ac er ein bod ni i gyd yn awyddus i ddychwelyd i fwynhau’r awyr agored rydyn ni a’n partneriaid yn gofyn i hyn beidio â digwydd ar draul natur ac eraill.”
Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“Rwy’n annog pobl i barchu ein Parciau Cenedlaethol, ein coedwigoedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a defnyddio safleoedd gwersylla swyddogol ar gyfer eich arhosiad i gefnogi busnesau lleol a diogelu ein tirweddau eiconig.
“Mae ymddygiad difeddwl ambell un yn bygwth difetha mwynhad eraill, ac mae’n peri pryder i’r cymunedau lleol sy’n gorfod glanhau’r llanastr a gaiff ei adael gan y rhai sy’n gwersylla heb ganiatâd.
“Bydd swyddogion yn patrolio ar draws ein Parciau Cenedlaethol drwy gydol y penwythnos ac os oes angen bydd hysbysiadau cosb yn cael eu rhoi i’r rhai sy’n diystyru’r rheolau ac yn parcio dros nos.”
Meddai Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
“Mae’n grêt bod cymaint ohonon ni’n mwynhau mannau awyr agored, ond rydyn ni’n gofyn i bobl drin cefn gwlad gyda gofal a throedio’n ysgafn.
“Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn achosion o wersylla anghyfreithlon yr haf hwn sydd wedi cael effaith andwyol ar yr amgylchedd, ymwelwyr a chymunedau lleol ac mae delio â’r rhain yn cymryd adnoddau prin oddi wrth waith cadwraeth hanfodol.”
Dywedodd Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru:
“Mae bywyd gwyllt wedi dod i arfer â’r llonyddwch dros y misoedd diwethaf ac rydym yn gofyn yn garedig i ymwelwyr â gwarchodfeydd natur beidio ag achosi aflonyddwch.
“Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi sylwi ar bobl yn gosod pebyll, faniau a chartrefi modur dros nos yn rhai o warchodfeydd natur yr RSPB. Yn anffodus, mae hyn yn aml yn arwain at broblemau fel taflu sbwriel, blocio ffyrdd a llwybrau, niweidio cynefinoedd ac, ar adegau, enghreifftiau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae mwyafrif yr ymwelwyr yn parchu byd natur ac ar ôl misoedd o gyfnod clo, rydym yn awyddus i bawb allu mwynhau’r bywyd gwyllt anhygoel sydd gennym yma yng Nghymru.”