Wrth i drigolion ac ymwelwyr Tal-y-bont ar Wysg baratoi at brysurdeb yr haf, cynhyrchwyd taflen newydd i hyrwyddo’r pentref ac annog ymwelwyr i fwynhau’r oll sydd ar gael yn Nhal-y-bont ar Wysg.
Wedi’i hariannu gan brosiect ‘Cynghreiriau Cefn Gwlad’ Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Grŵp Twristiaeth Tal-y-bont ar Wysg wedi creu taflen sy’n cynnwys lluniau trawiadol wedi’u tynnu gan Nigel Forster, ffotograffydd o fri rhyngwladol sy’n byw yn y pentref. Mae’r Grŵp wedi cyhoeddi 8000 o gopïau o’r daflen a fydd ar gael gan siopau a busnesau lleol.
Yn swatio yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Tal-y-bont ar Wysg yn fan cychwyn delfrydol i ymwelwyr sy’n dymuno crwydro’r Parc Cenedlaethol ar droed, ar feic neu gwch camlas. Mae amrywiaeth eang o lwybrau cerdded ar gael gan gynnwys Taith Henry Vaughan, Tramffordd Brynoer, Dyffryn, Taith y Taf a llwybr camlas Sir Frycheiniog. Mae hyd yn oed taflen taith fwyd y gamlas ar gael hefyd, fel y gallwch drefnu’ch taith â lluniaeth ar y ffordd.
Nid cerdded yn unig sydd dan sylw – mae’r daflen hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am lety, seiclo a beicio mynydd, canŵio, pysgota, bywyd gwyllt, celf a chrefft, bwyd lleol ac ynni gwyrdd. Mae map cyfleus yn nodi’r holl lefydd a thirnodau pwysig i chi.
Yn ogystal â rhoi crynodeb cyffredinol o Dal-y-bont ar Wysg, mae’r daflen hefyd yn rhestru atyniadau twristaidd poblogaidd – gan gynnwys cronfa ddŵr Tal-y-bont ar Wysg a chamlas Mynwy ac Aberhonddu – manylion am ddigwyddiadau a gwyliau, yn hybu llety a hyrwyddo hanes yr ardal, yn ogystal â llefydd i ymweld â nhw.
“Mae Tal-y-bont ar Wysg yn berl o bentref sy’n cynnwys popeth i’r ymwelydd”, meddai Carol Williams o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sydd wedi ariannu’r daflen. “Bydd y daflen newydd hon yn hyrwyddo’r hyn sydd ar gael i bawb ei fwynhau yma, ac mae’n ategu’r ffaith bod croeso mawr i bawb, ddydd neu nos.”
Ychwanegodd Clare Wright, aelod o grŵp twristiaeth Tal-y-bont ar Wysg: “Yn y dyddiau economaidd anodd sydd ohoni, mae’n rhaid inni fachu ar bob cyfle i ddenu mwy o bobl i’r pentref a dangos yr hyn sydd ar gael yma. Mae Tal-y-bont ar Wysg yn unigryw fel ‘siop un stop’ ar gyfer pob gweithgaredd dan haul yn y Parc Cenedlaethol.”