- BLWYDDYN GYNTAF Y DIGWYDDIAD NEWYDD YNG NGHASTELL Y GELLI
- SIARADWYR, STONDINAU, ADLONIANT, A MWY
- DECHRAU DELFRYDOL I HAF GWYRDD YN Y GELLI
Mae digwyddiad newydd cyffrous yn cael ei lansio ar drothwy’r Pasg yng Nghastell y Gelli Gandryll. Cynhelir Ffair Wanwyn y Gelli am y tro cyntaf ddydd Sadwrn 12 Ebrill rhwng 10am a 5pm a gobaith y trefnwyr yw ei chynnal yn flynyddol os bydd hi’n llwyddiant.
Cynhelir y Ffair yng Nghastell y Gelli a’i diroedd, gyda sgyrsiau a thrafodaethau yn Neuadd y Castell, a stondinau a gweithgareddau mewn pebyll y tu allan. Bydd cerddoriaeth fyw a lluniaeth, yn cynnwys pabell gwrw yn gwerthu cwrw lleol.
Mae Ffair Wanwyn y Gelli yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’i nod yw bwrw golwg ar faterion ‘gwyrdd’ mewn modd hwyliog a rhyngweithiol. Bydd yr arlwy’n cynnwys arbenigwyr yn sgwrsio am faterion o bob math yn cynnwys cludiant ac ynni cymunedol, eco-gynllunio a gwelliannau gwyrdd i’r cartref. Bydd gweithgareddau ymarferol i’r teulu cyfan yn cynnwys plethu helyg, crefftau uwchgylchu, gweithdai ysgrifennu, gwau, nyddu a gwehyddu. Bydd hefyd amrywiaeth o stondinau llawn gwybodaeth a difyr dan ofal elusennau a busnesau lleol, yn cynnwys cyfnewidfa planhigion a hadau. Bydd cerddoriaeth fyw a gweithgareddau llawn hwyl i ddiddanu’r plant drwy’r dydd, a bydd cyfle i fwynhau gwledd o fwyd a diod lleol.
Dyma Lousie Davies, trefnydd y digwyddiad, sydd hefyd yn rhedeg siop masnach deg yn y Gelli, Eighteen Rabbit, yn egluro’r syniad wrth wraidd y digwyddiad newydd.
“Mae cynaliadwyedd, yn enwedig sut mae cael cynulleidfa eang i gymryd diddordeb mewn materion gwyrdd, wedi bod o ddiddordeb mawr i ni erioed. Ein gobaith yw y bydd pobl y Gelli yn cael eu hysbrydoli i wneud newidiadau bach i’w ffordd o fyw a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Ein nod yw hyrwyddo ffordd o fyw gynaliadwy, rhoi llwyfan i grwpiau a sefydliadau lleol sy’n gallu cynnig cyngor i drigolion sy’n awyddus i fod yn wyrddach, a rhoi gwybodaeth am sut gall busnesau weithredu’n fwy cynaliadwy. Mae’r ymateb hyd yma wedi ein siomi ar yr ochr orau, sy’n dangos bod pobl yn awyddus i gael y math hwn o ddigwyddiad yn y Gelli.”
Meddai Helen Roderick, Swyddog y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae grantiau’r Gronfa wedi helpu amrywiaeth eang o brosiectau cyffrous ac arloesol ar draws y Bannau ac rydym ni’n falch dros ben ein bod ni wedi gallu rhoi hwb i’r Ffair Wanwyn y Gelli flynyddol gyntaf. Rydym ni’n mawr obeithio y bydd y Ffair yn llwyddiant ysgubol arall a fydd yn annog rhagor o arloeswyr ac entrepreneuriaid lleol sydd â syniadau am sut i ddod â manteision cynaliadwy hirdymor i bobl leol a’r economi leol i ddod atom ni i weld sut gallwn ni eu helpu.
Mae pump rownd gyllido ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2015 a’r dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau fydd 11 Mehefin 2014.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â sdf@beacons-npa.gov.uk neu ffoniwch 01874 620 471
-DIWEDD-