Mae’n ddigon hawdd cymryd pethau’n ganiataol, megis y llinell anfarwol yn The Life of Brian: ‘All right, but apart from the sanitation, the medicine, education, wine, public order, irrigation, roads, a fresh water system, and public health, what have the Romans ever done for us?’ Digon hawdd hefyd yw cymryd Parciau Cenedlaethol yn ganiataol, ond os collwn ni nhw, chawn ni ddim ohonyn nhw’n ôl.
Sefydliad newydd yw Cynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru sy’n gobeithio gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd Parciau Cenedlaethol Cymru, yng nghanol yr holl newidiadau i ddeddfwriaeth sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd, yn parhau i gael eu diogelu gan drefniadau cyfreithiol a rheoli priodol oherwydd, heb os nac oni bai, maen nhw drysorau cenedlaethol.
Maen nhw’n llawn mor bwysig â’n cestyll neu Stadiwm y Mileniwm. Maen nhw’n dirweddau ysblennydd sy’n rhoi Cymru ar lwyfan byd. Daw deuddeg miliwn o bobl i’n Parciau bob blwyddyn, llawer ohonyn nhw’n bobl leol neu sydd wedi gwneud y daith fer o’r gororau, eraill o dramor. Rhyngddyn nhw, maen nhw’n gwario £1 biliwn gan greu ac yn diogelu miloedd o swyddi lleol.
Mae parciau’n fwy na llefydd prydferth, maen nhw’n gyfoeth o dreftadaeth naturiol a diwylliannol, sy’n rhan o dirwedd fyw yn hytrach nag yn cael ei chadw y tu ôl i arwyddion DIM CYFFWRDD mewn amgueddfa. Wrth gerdded heibio i feini hirion enfawr yn y mynyddoedd, gallwch ddychmygu’ch cyndeidiau o’r oes efydd, yn hela ceirw neu’n mynd ar bererindod i Gôr y Cewri o bosibl. Bron y gallwch chi glywed sŵn traed lleng Rufeinig yn gorymdeithio o un gaer i’r llall, neu gri’r porthmyn wrth iddyn nhw symud da byw i’r marchnadoedd yn Lloegr.
Daw daeareg yn fyw ac yn ddealladwy gydag enghreifftiau perffaith o sut cafodd y creigiau a’r mynyddoedd eu creu. Does ryfedd bod geirfa daearegwyr ym mhedwar ban byd yn frith o enwau Cymreig fel Cambriaidd ac Ordofigaidd. Mae bywyd gwyllt sydd wedi diflannu mewn mannau eraill yn goroesi yn ein Parciau; mae cerdded ym Mannau Brycheiniog neu Eryri ddechrau’r haf yn gyfle heb ei ail i weld planhigion Arctig prin yn eu holl ogoniant.
Mae llawer o bobl y gweld y Parciau fel mannau chwarae sy’n eu herio; creigiau sy’n ddelfrydol ar gyfer ymarfer cyn taclo Everest, ceufadu drwy geunentydd o ewyn gwyn neu gael hwyl a sbri ar y traeth. I eraill, maen nhw’n llefydd i’r enaid gael llonydd neu’n gyfoeth o ysbrydoliaeth, gyda Phenfro’n cael ei ystyried yn un o’r ddau gyrchfan arfordirol gorau’r byd gan National Geographic. Mae’n anodd ei fesur, ond mae’n siŵr bod ymweld â’r Parciau o fudd enfawr i iechyd, cynhyrchiant a lles; llefydd sy’n ein hatgoffa bod bywyd yn dda.
Mae’r Parciau’n gorchuddio 20% o Gymru ond maen nhw’n cyfrif am ganran uwch o lawer o wasanaethau hanfodol y genedl, yn cynnwys dŵr yfed, ac maen nhw’n cadw storfeydd carbon enfawr er mwyn arafu’r newid yn yr hinsawdd.
Ers 1951 a chreu’r Parc Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru, mae poblogaeth y DU wedi tyfu deuddeg miliwn, mae nifer y cerbydau trwyddedig wedi cynyddu o bedair miliwn i dri deg a phedair miliwn ac mae poblogaeth y byd wedi mwy na dyblu o dri biliwn i saith biliwn. Mewn planed cynyddol lawn, mae Parciau Cenedlaethol yn bwysicach nag erioed ac, yn wrthnysig, dan fwy o fygythiad nag erioed.
Mae bygythiadau byd-eang fel y newid yn yr hinsawdd neu dwf poblogaeth, a’r pwysau o ran tai a chynhyrchu bwyd a ddaw yn sgil hynny, yn amlwg ac yn ddidrugaredd. Mae bygythiadau hefyd pan ystyrir bod anghenion economaidd yn gwrthdaro â’r angen i ddiogelu’r rhinweddau sy’n gwneud yr ardaloedd hyn yn arbennig. Mae datblygu cynaliadwy yn gofyn am gydbwysedd gofalus rhwng yr amcanion hyn. Mae gan ein tri Awdurdod Parc Cenedlaethol gyfoeth o brofiad o wneud y penderfyniadau anodd hyn fel y cydnabuwyd yn yr Adroddiad diweddar i Lywodraeth Cymru gan y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus (Comisiwn Williams). Roedd yn diystyru’r syniad y dylai Awdurdodau Parciau Cenedlaethol golli’u hannibyniaeth a dod yn rhan o Awdurdodau Lleol, sydd â gormod ar eu plât yn barod mewn sawl ffordd.
Mae’r Parciau’n annwyl i bobl fel llefydd i gael antur, ysbrydoliaeth ac ymlacio; mewn arolwg, dywedodd 95% o bobl Cymru fod y Parciau Cenedlaethol yn bwysig iddyn nhw ac mae tri chwarter poblogaeth Cymru yn ymweld â nhw bob blwyddyn. Os yw’r Parciau mor annwyl â hynny i ni, mae angen i ni ofalu amdanyn nhw.
– DIWEDD –