Cyfarfod mynediad cyhoeddus yn dwyn ynghyd porwyr a thirfeddianwyr o bob cwr o Fannau Brycheiniog

Mynychodd dros 100 o ffermwyr, porwyr a thirfeddianwyr gyfarfod yr wythnos hon (dydd Mawrth 14 Ionawr) i drafod mynediad cyhoeddus ar dir preifat gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

Hwyluswyd y cyd-gyfarfod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru a Chymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad i godi ymwybyddiaeth o atebolrwydd presennol tirfeddianwyr am fynediad cyhoeddus ar dir Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy a hawliau tramwy cyhoeddus, rheoli’r risgiau, dyletswydd gofal tirfeddianwyr tuag at bobl sy’n mynd ar eu tir a’r arferion gorau ym maes rheoli tir. Roedd cyfle hefyd i glywed gan Lywodraeth Cymru am yr adolygiad presennol o ddeddfwriaeth yn ymwneud â mynediad i dir a dŵr, sy’n cael ei gynnal er mwyn llywio ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn agor yn ystod y misoedd nesaf.

Ed Evans, yr Aelod Eiriolwr ar gyfer Amaethyddiaeth yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd cadeirydd y digwyddiad, ac roedd yn gobeithio y byddai’n arwain at ragor o ymgysylltu â’r gymuned ffermio a phartneriaethau rhwng y sefydliadau hwyluso. Meddai: “Mae’r ardal yn elwa’n sylweddol ar ymwelwyr â’r Parc Cenedlaethol, ond nododd rhai pobl yn y cyfarfod hwn bryder y gymuned ffermio ynglŷn â rhai o’r problemau sy’n gallu codi weithiau. Neges glir mynychwyr y cyfarfod oedd nad ydynt yn cefnogi ehangu mynediad. Mae dod o hyd i’r cydbwysedd cywir yn her i bawb. Roedd hwn yn gyfle rhagorol i ffermwyr ddysgu mwy am y gyfraith yn ymwneud ag atebolrwydd cyhoeddus, gwaith Wardeniaid y Parc Cenedlaethol, a chlywed am gynlluniau Llywodraeth Cymru cyn iddi gyhoeddi cyfnod yr ymgynghoriad.

“Mae’n bwysig i ni gefnogi ein cymunedau ffermio, ac rydym yn bwriadu cynnal rhagor o gyfarfodydd tebyg yn ddiweddarach eleni er mwyn rhannu gwybodaeth bwysig â’r gymuned wledig.”

Meddai Glasnant Morgan, Cadeirydd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru Brycheiniog a Sir Faesyfed: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am drefnu cyfarfod i drafod mynediad. Mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru yn credu mai creu rhagor o gyfleoedd mynediad, heb sicrhau adnoddau i’w rheoli’n gywir, yw’r canlyniad gwaethaf posibl i ddefnyddwyr, perchnogion a meddianwyr tir preifat. Mae dulliau gwael o reoli ymwelwyr â’r ardaloedd hyn yn creu problemau diangen i’r rhai sy’n ffermio ac yn rheoli’r tir. Yn y gorffennol, mae rhagor o fynediad wedi’i greu heb yr arian i’w gynnal mewn cyflwr derbyniol. Nid oes angen i fynediad gwell olygu rhagor o fynediad o anghenraid. Yn ein barn ni, mae angen rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei neilltuo ar gyfer gwaith cynnal a chadw a diweddaru hirdymor y rhwydwaith presennol.”

Meddai Aled Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Undeb Amaethwyr Cymru Brycheiniog a Sir Faesyfed: “Roedd y cyfarfod yn ddefnyddiol iawn i’n haelodau, yn enwedig gan fod ymgynghoriad ar Bapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru yn cychwyn rywbryd eleni. Mae mynediad yn bwnc sy’n achosi llawer o bryder i’r gymuned ffermio, ac mae gwrthwynebiad cyffredinol i’r syniad o greu ‘hawliau mynediad tybiedig’ i dir sy’n cael ei ffermio a dyfrffyrdd. Serch hynny, trafodwyd rhai agweddau cadarnhaol, fel yr adolygiad o ddeddfwriaeth bresennol i’w gwneud yn haws i ddargyfeirio hawliau tramwy, a’r mater o gŵn yng nghefn gwlad, er enghraifft. Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn credu y dylai unrhyw adolygiad o’r broses o ddarparu mynediad fod yn seiliedig ar y galw, a chael ei gwblhau mewn partneriaeth â ffermwyr a thirfeddianwyr er mwyn lleihau gwrthdaro a gwella profiad y rhai sy’n ymweld â chefn gwlad.”

Meddai Harry Legge-Bourke, tirfeddiannwr lleol ac Aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae llawer o economi cefn gwlad Cymru yn seiliedig ar dwristiaeth, ac mae’n rhaid i ni fel tirfeddianwyr a ffermwyr gofio hynny. Fodd bynnag, mae angen sicrhau cydbwysedd o safbwynt mynediad. Mae’r Adroddiad ar Gyflwr Byd Natur wedi dangos yn wyddonol bod llawer o’n tirwedd a’n morwedd yn methu. Mae’n rhaid i ni ganfod atebion sy’n gwella ac yn diogelu’r ‘ardaloedd mewn perygl’, sef wrth gwrs yr ardaloedd sy’n denu ymwelwyr, a sicrhau cydbwysedd rhwng cynyddu mynediad i gefn gwlad a deddfau da a rheoli da. Rhaid datblygu dull gweithredu cydadrannol  er mwyn sicrhau bod gan bobl o ardaloedd trefol a gwledig yng Nghymru, twristiaid ac ymwelwyr fynediad i gefn gwlad Cymru ar gyfer busnes, hamdden ac iechyd. Ond waeth pa mor dda yw bwriadau ‘mynediad agored’, ni ddylai niweidio busnesau fferm, afonydd bregus neu systemau ecolegol yr ucheldir. Nid oes gennym hanner cyfanswm cefn gwlad agored a gwyllt yr Alban. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn agor mwy o dir a choedwigoedd dros y blynyddoedd nesaf, ac mae gennym filoedd o filltiroedd o lwybrau troed a llwybrau ceffyl yng Nghymru nad ydynt yn cael eu defnyddio gan dwristiaid a’r cyhoedd – hyd yn oed os ydynt ar eu stepen drws. Rwy’n annog pawb a oedd yn y cyfarfod i ymateb i Bapur Gwyrdd yr Ymgynghoriad pan fydd ar gael, gan ei bod yn hollbwysig i swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog glywed a deall safbwyntiau pawb a oedd yn bresennol fel y gallant wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynglŷn â’r ddeddfwriaeth.”

Meddai Charles De Winton, Pensaer Gwledig Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad: “Roedd y cyfarfod yn gyfle defnyddiol i ystyried yr atebolrwydd cyfreithiol presennol sydd gan dirfeddianwyr am y bobl sy’n dod ar eu tir, p’un ai a oes ganddynt ganiatâd i wneud hynny ai peidio. Roedd yn glir o ymateb y gynulleidfa bod llawer o ffermwyr a thirfeddianwyr yn anymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol. Roedd y cyfarfod hefyd yn ystyried cynigion posibl Llywodraeth Cymru yn y dyfodol a fydd yn effeithio ar fuddiannau tirfeddianwyr ac a fydd â goblygiadau mawr o bosibl. Rwy’n ddiolchgar i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am gynnal y digwyddiad diddorol hwn, ac rwy’n mawr obeithio y bydd digwyddiadau tebyg yn dilyn fel bod gan yr Awdurdod gyfle i ymgysylltu â’i etholwyr gwledig.”

-Diwedd-