Ers datgan gweithredu newydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i ddiogelu 1,500 o rywogaethau o bryfed peillio yn gynharach yr wythnos hon, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cyhoeddi ei gynlluniau ei hun i ddiogelu pryfed peillio gyda’r newyddion bod Parc Gwledig Craig-y-Nos newydd ddod yn gartref i gyfres o gychod gwenyn.
Mewn ymateb i’r gostyngiad yn nifer y pryfed peillio yng Nghymru, mae Parc Gwledig Craig-y-Nos, sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wedi cyflwyno dau gwch, sy’n gartref i fwy na 30,000 o wenyn, ac mae cynlluniau ar y gweill i osod mwy o gychod ar safleoedd eraill sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Gyda phoblogaeth gwenyn Prydain yn dirywio, mae’r Parc Gwledig yn lle gwych i wenyn – rhywle lle gallan nhw ffynnu mewn ecosystem warchodedig sy’n baradwys i bryfed, yn rhydd o blaladdwyr a pheryglon eraill sy’n bygwth y rhywogaeth.
Daeth y syniad i Ian Penn, Warden y Parc Cenedlaethol, pan oedd yn gweithio ar adeilad yng Nghraig-y-Nos, gan ddarganfod bod gwenyn gwyllt wedi creu cychod yn y waliau. Cafodd y gwenyn gwyllt eu symud i leoliad diogel yn Abertawe ond, ar ôl iddo gwblhau’r gwaith, dechreuodd Ian archwilio ffyrdd o ailgyflwyno gwenyn i’r Parc. Ymatebodd y gwenynwr lleol David Bentley-Miller i hysbysebion y Parc Cenedlaethol ar wefan Cymdeithas Gwenynwyr Cymru, a rhoddwyd y cychod yn eu lle rai misoedd yn ddiweddarach. Mae’r cychod wedi’u lleoli yn ddigon pell o lwybrau cerdded cyhoeddus, ond mae modd eu gweld o’r ystafell ddosbarth ar y safle fel y gall myfyrwyr eu gweld nhw a dysgu sut mae gwenyn yn casglu eu bwyd, yn strwythuro eu cychod ac yn troi paill a neithdar yn fêl a chwyr gwenyn – ac rydym yn gobeithio gwerthu’r rhain yn y Parc Gwledig flwyddyn nesaf.
Meddai Paul Sinnadurai, Rheolwr Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Cyflwyno cychod gwenyn i Barc Gwledig Craig-y-Nos yw ein cam uniongyrchol cyntaf tuag at ddiogelu’r pryfed peillio hyn sydd, ynghyd â phryfed eraill, yn hollbwysig ar gyfer ffrwythloni planhigion fel eu bod yn cynhyrchu ffrwythau a hadau. Ein nod hirdymor yw gosod mwy o gychod ar dir Awdurdod y Parc Cenedlaethol, lle mae’n ddiogel gwneud hynny, fel ein bod yn cwmpasu’r ardal gyfan. Mae’r ffigurau mewn perthynas â dirywiad graddol cytrefi gwenyn yn ddychrynllyd. Fel Awdurdod Parc Cenedlaethol, rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau bod pryfed peillio yn cael eu diogelu. Does dim modd i bawb fod yn wenynwr, ond rydyn ni’n annog pawb i gyfrannu at helpu pryfed peillio. Mae pethau syml fel plannu mwy o flodau gwyllt sy’n addas i wenyn a gadael i borfa dyfu’n hirach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr o ran hybu gwaith pryfed peillio a diogelu ein hecosystemau. Rydyn ni a thirfeddianwyr eraill yn helpu gwenyn a phryfed peillio eraill gyda gwaith rheoli cynefinoedd er mwyn cynnal a gwella llefydd gwylltach.”
Meddai David Bentley Miller, Prif Weithredwr yr Elusen Iechyd Meddwl POBL: “Mae’n fraint i mi gael bod yn wenynwr yng Nghraig-y-Nos. Mae gwenyn yn hollbwysig ac mae Awdurdod y Parc wedi cydnabod hyn trwy ganiatáu i ni gadw ein cychod yma. Yn ogystal, fel Prif Weithredwr elusen iechyd meddwl, mae yna gysylltiad clir rhwng bod allan yn yr awyr agored a lles meddyliol gwell. Bydd y prosiect hwn yn helpu cymaint o bobl ar bob lefel. Alla i ddim diolch digon i Awdurdod y Parc am ei weledigaeth ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd am flynyddoedd lawer i sicrhau ein bod ni’n cyfrannu at godi proffil gwenyn a’r cyfraniad allweddol y maen nhw’n ei wneud at yr ecosystem.”
Meddai Margaret Underwood, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Dydy gerddi Cymru ddim yn gyflawn heb y wenynen, ac mae’r un peth yn wir am dir Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Rydyn ni wrth ein bodd bod gennym ni ddau gwch gwenyn newydd ym Mharc Gwledig Craig-y-Nos – mae gan gyn-ardd Fictoraidd Adelina Patti, sy’n 40 erw, bopeth y gallai gwenynen ei ddymuno, gan gynnwys coed addurnol ac estron fel y gollen, acasia a’r ferwydden, ynghyd â choed derw a ffawydd. Gyda chymaint o goed a llwyni sy’n blodeuo yn y gaeaf a’r gwanwyn, mae yna ddigon yma i fwydo’r gwenyn gydol y flwyddyn. Rydw i a’r Aelodau i gyd yn edrych ymlaen at glywed lle bydd cychod gwenyn yn cael eu gosod nesaf.”
Os ydych chi’n wenynwr sydd â diddordeb mewn cadw cychod gwenyn ar dir y Parc Cenedlaethol, ffoniwch Samantha Sinclair ar 01874 620 420 neu anfonwch e-bost at Samantha.sinclair@breconbeacons.org
-DIWEDD-