Lansio “Lawr i’r Môr” ym Mannau Brycheiniog

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mewn partneriaeth â Glandŵr Cymru, wedi lansio cyfres newydd cyffrous o fideos wedi eu hanimeiddio sy’n datgelu stori hanesyddol Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu fydd yn annog pobl i ymweld â thirnodau hanesyddol.

Ariannwyd prosiect “Lawr i’r Môr” yn rhannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ‘Flwyddyn y Môr’ Croeso Cymru. Fe’i lansiwyd yn swyddogol ar ddydd Llun 23 Ebrill yn Theatr Brycheiniog gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, lle dangoswyd y pedwar animeiddiad, a gynhyrchwyd gan Brickwall.

Mae’r animeiddiadau yn canolbwyntio ar bedair tramffordd ac yn dangos mewn modd artistig pam yr adeiladwyd y gamlas yn y lle cyntaf, a sut y gall ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd ymweld ag atyniadau megis yr odynau calch neu Waith Haearn Blaenafon. Bydd y fideos ar gael ar-lein ynghyd â map y gellir ei lawrlwytho ar gyfer pob llwybr – www.breconbeacons.org/downtothesea

Mae’r llwybrau cerdded yn addas ar gyfer teuluoedd ac yn galluogi i blant ymgysylltu â’r gorffennol diwydiannol mewn modd cadarnhaol. Wrth i’r prif dymor ar gyfer twristiaid ddechrau, bydd y fideos animeiddiedig a’r llwybrau cerdded yn rhoi hwb i’r diwydiant twristiaeth yn lleol ac yn cynnig amrywiaeth pellach o gynnyrch twristaidd sydd ar gael yn y rhanbarth.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon:

“Mae Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn atyniad hanesyddol hyfryd a gaiff ei mwynhau gan drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae animeiddiadau “Lawr i’r Môr” wir yn dod â’r gorffennol yn fyw, a byddant yn ysbrydoli pobl i fynd am dro ac i ddysgu rhagor am hanes yr ardal. Mae’n wych bod yma yn y lansiad, ac i weld yr animeiddiad am y tro cyntaf wrth i ni barhau i ddathlu ‘Blwyddyn y Môr’.”

Ychwanegodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog y deall pwysigrwydd ein rhwydwaith o gamlesi a pha mor boblogaidd ydynt nhw ymhlith y cymunedau lleol ac ymwelwyr. Mae’r ffilmiau byrion hyn yn arbennig iawn ac rwy’n siŵr y bydd pawb a fydd yn eu gwylio yn eu mwynhau. Mae ein gwaith yn y Parc Cenedlaethol wedi’i gysylltu’n agos â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac rwy’n siŵr y bydd yr animeiddiadau a’r llwybrau cerdded hyn yn annog pobl i fynd allan i’r awyr agored ac i fwynhau’r dirwedd arbennig sydd gennym ni.”

Dywedodd David Morgan, rheolwr datblygu ac ymgysylltu Glandŵr Cymru:

“Mae’r gamlas dros 200 mlwydd oed ac mae wedi chwarae rôl allweddol iawn yn hanes diwydiannol y genedl, ac yn hanes y cymunedau y mae’n llifo drwyddynt. Mae’n parhau i ffynnu fel lle ar gyfer natur a hamdden. Mae cyflymdra bywyd yn arafu ac yn ymlacio pan fyddwch ger y dŵr, ac rydym yn gobeithio bod y fideos yn ffordd o annog hyd yn oed yn fwy o bobl i ymweld â’r gamlas a darganfod yr hyn sydd ganddi i’w gynnig.”

Ariannwyd y prosiect hwn yn rhannol trwy Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol, Croeso Cymru. Nod y gronfa yw hyrwyddo a datblygu cyrchfannau nodedig o ansawdd uchel ar gyfer ymwelwyr ac i sicrhau’r buddion mwyaf trwy gyd-fynd â’n blynyddoedd thematig a arweinir gan y cynnyrch, a thrwy gyd-fynd â menter Ffordd Cymru.

 – DIWEDD –