Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrthi’n newid ei strwythurau gwaith er mwyn gwella’r ffordd mae’r sefydliad yn cael ei reoli ac i helpu ymdopi â thoriadau yn y gyllideb.
Mae Cynllun Corfforaethol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer 2018-19 yn canolbwyntio ar bedwar prif faes gwaith; Treftadaeth, Tirwedd a Bioamrywiaeth, Cymunedau Gwydn a Datblygiad Economaidd Cynaliadwy. Mae gan y themâu hyn gysylltiad cryf â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru a bydd gwaith sy’n cael ei wneud yn y meysydd gwaith hyn yn helpu cyflawni amcanion y Llywodraeth.
Mae’r Awdurdod wedi gweithio’n agos â Swyddfa Archwilio Cymru ac wedi datblygu llywodraethu, craffu, cynllunio perfformiad a chydymffurfiaeth cryf. Mae’r newidiadau newydd sy’n cael eu cynnig yn canolbwyntio ar wella’r ffordd mae’r Awdurdod yn gweithio ar lawr gwlad yn y prif feysydd gwaith sydd wedi eu symleiddio.
Mae angen i’r Awdurdod adlewyrchu’r newidiadau hyn wrth wneud penderfyniadau, ac mae aelodau wedi bod yn trafod strwythurau eu pwyllgorau er mwyn sicrhau bod aelodau’n rhan bwysig o ddatblygu polisïau a monitro sut mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu.
Mae’r newidiadau sy’n cael eu cynnig yn cynnwys y posibilrwydd o leihau nifer yr aelodau ar y Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy, cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor hwnnw ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar yr un diwrnod, ailffocysu cysylltiad aelodau â chyrff allanol ac uno neu ddileu grwpiau gwaith. Bydd y newidiadau hyn yn gwella effeithlonrwydd er mwyn cyflawni’r amcanion corfforaethol a hefyd yn arbed arian i’r Awdurdod, mewn cyfnod o doriadau ariannol. Yn y bôn, byddan nhw’n cryfhau’r Awdurdod ar gyfer heriau’r dyfodol.
Mae’r Awdurdod eisiau clywed eich barn chi ar y newidiadau hyn a gallwch wneud sylwadau ar ein gwefan tan 27 Ebrill 2018.
Dwedodd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd Llywodraethu, Grŵp Gwaith Datblygu Aelodau a Chefnogwr Aelodau dros Lywodraethu;
“Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi gweithio’n galed dros ben i sicrhau llywodraethu cryf o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod yn darparu’n llwyddiannus ar lawr gwlad ac yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Bydd y newidiadau sy’n cael eu cynnig yn gwella’r ffordd rydyn ni fel sefydliad yn cyflawni ein hamcanion.”
Am ragor o wybodaeth a sylwadau, ewch i – Adolygiad llywodraethu