Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Achub y Blaned

Datgelodd Adroddiad Planed Fyw, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gronfa Natur Fyd-Eang, y gwir pryderus ynglŷn â sut rydyn ni, fel pobl, yn cael effaith negyddol amlwg ar natur ac ar ein planed.

Mae’r adroddiad yn nodi’n glir mai “ni yw’r genhedlaeth gyntaf sydd â darlun clir o werth natur a’n heffaith arno” ac mae’n pwysleisio bod 60% o ostyngiad ym mhoblogaeth rhywogaethau’r blaned ers 1970, yn anffodus; mae’n dod i’r casgliad cywir “efallai mai ni fydd y genhedlaeth olaf fydd yn gallu gweithredu er mwyn gwrthdroi’r duedd”.

Fel Awdurdod Parc Cenedlaethol, rhan o’n prif bwrpas yw gwarchod a chyfoethogi bywyd gwyllt a phrydferthwch naturiol Bannau Brycheiniog ac felly mae’n hanfodol ein bod ni’n rhannu sut mae ein gwaith amgylcheddol yn helpu gwrthdroi’r duedd hon.

Arweiniodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog drwy gydweithio gyda’r Cyngor Cefn Gwlad gynt, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Sir Powys a’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt i sefydlu Gwasanaeth Gwybodaeth am Fioamrywiaeth Powys a’r Parc Cenedlaethol – canolfan cofnodion lleol gyntaf Cymru. Mae eu gwaith yn ein galluogi i fonitro bioamrywiaeth ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol ac mae’n ffordd o gasglu, rhannu a defnyddio’r cyfoeth o ddata a gwybodaeth fiolegol sydd yn y rhanbarth. Ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth am Fioamrywiaeth, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i bartneriaid yn ceisio gwneud penderfyniadau sy’n garedig wrth natur ynglŷn â rheoli a datblygu tir.

Mae’n werth nodi bod y Parc yn gartref i rai o blanhigion mwyaf prin y byd, er enghraifft rhywogaethau endemig o heboglys a cherddinen wen nad ydyn nhw i’w cael yn unrhyw le arall ar y ddaear, yn ogystal â nythfa fridio fwyaf Dwyrain Ewrop o ystlumod pedol lleiaf.

Prosiect pwysig arall yw ein Cynllun Gweithredu i Adfer Natur sy’n nodi’r hyn rydyn ni’n ei wneud ar lefel y Parc Cenedlaethol i hybu adfer bioamrywiaeth, gan amlygu maint yr her i rywogaethau a chynefinoedd y Parc a nodi’r prif amcanion i’r bartneriaeth eu cyflawni.

Mae’r Awdurdod hefyd yn gweithio’n galed i adfer mawn – gwaith sy’n hanfodol wrth leihau nwyon tŷ gwydr drwy gloi carbon yn ein cyflenwadau o fawn a cheisio rheoli cynhesu byd-eang. Mae adfer mawn wedi bod yn Waun Fach yn y Mynydd Du a Waun Fignen Felen yn y Goedwig Fawr Orllewinol yn ddiweddar.

Yn ogystal â’r mentrau amgylcheddol hyn ar y ddaear, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn chwarae rôl allweddol wrth addysgu ac ysbrydoli pobl i gysylltu’n well â’r amgylchedd naturiol a bod yn ymwybodol o’i bwysigrwydd.

Yn yr adroddiad dywedodd Martin Lambertini, Cyfarwyddwr WWF International, y “gallwn ni fod yn sylfaenwyr mudiad byd-eang a newidiodd ein perthynas â’r blaned, a sicrhau dyfodol ar gyfer holl fywyd y Ddaear, gan gynnwys ein bywydau ni ein hunain”. Mae Tîm Addysg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn mynd â thros 8,000 o blant ysgol i’r Parc bob blwyddyn ac yn eu haddysgu am fioamrywiaeth, ein perthynas â’r blaned ac arwyddocâd cynaliadwyedd. Mae creu cenhedlaeth sy’n fwy ymwybodol o’r amgylchedd eisoes wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yn ddiweddar rydyn ni wedi uno â ‘Good Energy’ i ddarparu ynni sy’n 100% adnewyddol ar gyfer Canolfannau Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ac rydyn ni wedi gosod pwyntiau gwefru ceir trydan er mwyn annog ein hymwelwyr i ddefnyddio ceir trydan.

Rydyn ni’n llwyr gefnogi Adroddiad Planed Fyw a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gronfa Natur Fyd-Eang ac yn gobeithio y bydd yn codi’r ymwybyddiaeth angenrheidiol i greu planed fwy cynaliadwy (cyn ei bod yn rhy hwyr).

– DIWEDD –