Cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Gyfarfod Cyffredinol Eithriadol ddydd Mercher 17 Chwefror i ystyried argymhellion Archwilio Cymru yn dilyn ei adolygiad o gyflawniad Rhaglen Newid yr Awdurdod.
Cyflwynodd Archwilio Cymru nifer o argymhellion yn y meysydd canlynol:
- Symud y Rhaglen Newid yn ei blaen
- Cryfhau Llywodraethiant
- Cryfhau cymryd penderfyniadau
Derbyniodd yr Aelodau argymhellion Archwilio Cymru a chytuno y dylai uwch swyddogion ac aelodau baratoi cynllun gweithredu manwl i wireddu’r argymhellion, a fydd yn cael ei adolygu a’i fonitro fel y dangosir yn yr adroddiad gan y Pwyllgor Archwilio a Chraffu.
Meddai Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe
“Rydyn ni’n ystyried fod yr adolygiad yn gyfle i ddangos ymrwymiad i newid effeithiol yn y sefydliad ac i adfer hyder, yn fewnol ac yn allanol. Mae Aelodau’r Awdurdod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Prif Weithredwr a’r tîm rheoli newydd i gyflawni ein huchelgais sy’n cael ei ddangos yn Nghynllun Rheoli drafft y Parc Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar Dirwedd ac Adfer Natur, Ysbrydoli Pobl a Mannau a Chymunedau Gwledig Cynaliadwy, tra hefyd yn helpu i adfer ar ôl y pandemig Covid-19.”w