Yr wythnos hon, bydd y cwmni cyfryngau teithio byd-enwog Lonely Planet yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Nod eu sioe deithiol epig mewn Tesla trydanol yw arddangos rhai o Barciau Cenedlaethol mwyaf eiconig Cymru, Lloegr, a’r Alban. Ar ddydd Sadwrn, mae’r cwmni cyfryngau teithio yn gwahodd pobl i ymuno â nhw yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ger Libanus am ddigwyddiadau unigryw, hyrwyddo llyfrau a rhoddion.
Bydd Lonely Planet yn y Ganolfan Ymwelwyr o 10am tan 3pm fel rhan o Ffair Haf Bannau Brycheiniog, nad oes tâl mynediad ar ei gyfer. Bydd y daith hefyd yn dathlu nifer o lyfrau newydd Lonely Planet, gan gynnwys Epic Drives of the World a National Parks of Europe, sy’n cynnwys Bannau Brycheiniog.
Dywedodd Tom Hall, Cyfarwyddwr Golygyddol Lonely Planet: “Mae ein llyfrau newydd wedi ein hysbrydoli i fynd i archwilio golygfeydd godidog Prydain. Rydym yn hynod o ffodus fod gennym gymaint o dirluniau naturiol ac rydym yn edrych ymlaen at deithio ac ymweld â rhai o’r lleoedd gorau – a chwrdd â theithwyr eraill ar ein taith. Diben y daith yw rhoi blas i bobl o ran beth i’w ddisgwyl oherwydd bydd ceir trydanol yn fwy poblogaidd yn y dyfodol, a sut bydd hyn yn trawsnewid profiad teithio pobl.”
Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae gan ein Parc Cenedlaethol rai o deithiau cerdded a rhai ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol gorau Prydain, ac mae’n falch gennym ni groesawu cyhoeddwyr byd-enwog fel Lonely Planet. Bydd yr ymweliad yn cael ei gynnal ar yr un pryd â’n Ffair Haf a fydd yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Ymwelwyr drwy’r penwythnos – bydd yn ddiwrnod difyr i bawb.”
DIWEDD