Hydref 2017

Pobl yn Gyntaf Caerdydd Yn Dathlu Cwblhau Her Bannau Brycheiniog

Mae Pobl yn Gyntaf Caerdydd (Cardiff People First - CPF) yn dathlu wedi iddynt gwblhau Her Bannau Brycheiniog gan gwblhau 10 llwybr cerdded poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Trefnodd aelodau’r elusen, sy’n cael ei rhedeg gan ac ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu yng Nghaerdydd, seremoni gyflwyno tystysgrifau…

Llwyddiant Prosiect Geogelcio’r Haf ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog!

Yr haf hwn, bu bron i bedwar cant o bobl ifanc yn ymestyn eu hymennydd a’u cyrff, gan ddefnyddio GPS i chwilio am gliwiau cudd yn y dirwedd, diolch i Dîm Geogelcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r prosiect yn targedu pobl ifanc rhwng un ar ddeg a phump ar…

Y Gorffennol yn dod yn fyw diolch i Haneswyr y Dyfodol!

O ddarganfyddiadau cerrig hynafol i Rufeiniaid digidol i ailgodi adfeilion; daeth y gorffennol yn ôl yn fyw mewn Diwrnod Treftadaeth a gynhaliwyd yn Theatr Brycheiniog. Trefnwyd a chynhaliwyd y digwyddiad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid amrywiol. Roedd y digwyddiad hwn, a gynhaliwyd…

Seminar Partneriaeth Parciau Cenedlaethol Cymru

Cynhaliwyd seminar yr wythnos ddiwethaf yng Ngwesty’r Castell, Aberhonddu, ar gyfer aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru er mwyn trafod polisi a phartneriaeth. Mynychwyd y cyfarfod deuddydd gan aelodau o barciau Eryri, Bannau Brycheiniog, ac Arfordir Penfro, a chynhaliwyd cyfres o gyflwyniadau a gweithdai. Roedd y gweithdai’n canolbwyntio ar Ddeddf Llesiant…

Plant Ysgol Penderyn yn dod yn Llysgenhadon i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog!

Cafwyd gwasanaeth i ddathlu Ysgol Gynradd Penderyn yn dod yn Ysgol Llysgennad i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cyflwynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol fap mawr o’r Parc i’r ysgol a cafodd pob plentyn fathodyn ‘Llysgennad’. Mae’r cynllun ‘Ysgol Llysgennad y Parc Cenedlaethol’ yn cael ei redeg gan Wasanaeth Addysg yr Awdurdod…