Plant Ysgol Penderyn yn dod yn Llysgenhadon i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog!

Cafwyd gwasanaeth i ddathlu Ysgol Gynradd Penderyn yn dod yn Ysgol Llysgennad i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cyflwynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol fap mawr o’r Parc i’r ysgol a cafodd pob plentyn fathodyn ‘Llysgennad’.

Mae’r cynllun ‘Ysgol Llysgennad y Parc Cenedlaethol’ yn cael ei redeg gan Wasanaeth Addysg yr Awdurdod ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored; gan annog plant i ddatblygu hyder a sgiliau yn yr awyr agored o oedran cynnar. Mae’r cynllun yn cefnogi’r cwricwlwm drwy sgiliau llythrennedd a rhifedd, cefnogi gwell cyrhaeddiad wrth gysylltu dysgwyr a’u hathrawon â Bannau Brycheiniog. Ardal sy’n cael ei gwarchod a’i chadw yw’r Parc Cenedlaethol, ond mae hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer gwaith, dysgu, hamdden a chymunedau. Mae’r bartneriaeth rhwng ysgolion lleol a’r Parc yn rhoi i’r plant wybodaeth a dealltwriaeth o’u hamgylchedd lleol ac yn eu hysbrydoli i ymgysylltu â’r awyr agored a deall bod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle mor arbennig.

Dywedodd Mr. Wood, Pennaeth yr ysgol: “Mae gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn caniatáu i’r plant archwilio a dysgu am ac o fewn yr amgylchedd naturiol. Mae’r plant yn mwynhau gwneud hyn ac mae’n hyrwyddo byw’n iach ar gyfer eu dyfodol.”

Ychwanegodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae’n hanfodol fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Mae gweithio gydag ysgolion lleol, darparu cyrsiau perthnasol ac apelio at y plant yn caniatáu i ni ddylanwadu’n gadarnhaol ar eu perthynas gyda’r parc. Hoffwn longyfarch yr holl blant yn Ysgol Gynradd Penderyn ar ddod yn Llysgenhadon y Parc Cenedlaethol.”

Am fwy o wybodaeth ar raglen Ysgolion Llysgennad y Parc Cenedlaethol, ewch i www.beacons-npa.gov.uk/learning i weld y fideo rhagarweiniol.

DIWEDD