Tachwedd 2017

Adran Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Cyrraedd Rhestr Fer Dros Gymru Gyfan!

Dewiswyd Adran Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar restr fer Gwobrau Cenedlaethol Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd ar ddydd Gwener 17 Tachwedd. Mae’r Gwobrau Cenedlaethol yn cynnwys ceisiadau o bob cwr o Gymru, ac mae’n rhaid iddynt arddangos cyrhaeddiad eithriadol, a…

Nadolig Llawn Crefftau yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Bydd Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn mynd i hwyl yr ŵyl ar nos Fawrth 5 Rhagfyr, mewn partneriaeth â Beacons View Tearoom, pan fyddan nhw’n cynnal eu digwyddiad ‘Nadolig Crefftus’. Cynhelir Nadolig Crefftus rhwng 6pm a 9pm, gyda pharcio am ddim a dim tâl mynediad. Bydd y Ganolfan…

Trawsnewid Gwaith Powdwr Gwn yn Ddosbarth i Blant Ysgol!

Cafodd plant Ysgol Gynradd Penderyn gyfle i ddysgu am hanes diwydiannol yr ardal trwy ymweld â’r hen Weithfeydd Powdwr Gwn ger Pontneddfechan. Arweiniwyd y plant o gwmpas y safle treftadaeth gan Swyddogion Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a’u hanogodd i ddysgu mwy am eu hamgylchedd naturiol ac i gysylltu…

Cymuned Crai bellach Ar-lein a Chronfa Datblygu Cynaliadwy yn helpu gyda Neuadd Gymunedol!

Cynhaliodd cymuned Crai ddigwyddiad i ddathlu, gan fod cartrefi bellach yn gallu derbyn rhyngrwyd band eang ar gyflymder o 30mbps neu fwy, diolch i brosiect wedi’i arwain gan Dyfed Superfast. Hefyd, i’w weld yn y digwyddiad, oedd goleuadau LED newydd gwych a osodwyd gyda help Cronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc…

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn derbyn gwobr ‘Cymraeg yn y Gweithle’

Mae Sefydliad Datblygu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno gwobr ‘Cymraeg yn y Gweithle’ i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystod y seremoni Dysgu Gydol Oes a Dysgu Cymraeg flynyddol a gynhaliwyd ar 23 Hydref. Mae’r wobr yn cydnabod gwaith cyflogwyr sy’n cefnogi eu staff wrth iddynt ddysgu Cymraeg gyda…

Penodi Prif Swyddog Gweithredol Newydd yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae’n bleser gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi eu bod wedi penodi Julian Atkins fel eu Prif Swyddog Gweithredol. Bydd Julian yn dechrau ar ei waith ar 1 Chwefror 2018. Ar hyn o bryd Julian yw Cyfarwyddwr Rheoli Tir a Chefn Gwlad yn y parc ac fe bleidleisiodd aelodau’r…

Arddangosfa Pobl Ddiemwnt yn Theatr Brycheiniog

Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu yw’r lleoliad diweddaraf i ddangos Pobl Ddiemwnt, arddangosfa o ffotograffau sy’n dathlu 60 mlwyddiant Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gan agor heddiw, mae’r arddangosfa i’w weld yn Oriel Andrew Lamont yn y theatr tan 20 Tachwedd. Mae Pobl Ddiemwnt yn cynnwys 21 portread o rai o’r bobl…