Adran Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Cyrraedd Rhestr Fer Dros Gymru Gyfan!

Dewiswyd Adran Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar restr fer Gwobrau Cenedlaethol Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd ar ddydd Gwener 17 Tachwedd.

Mae’r Gwobrau Cenedlaethol yn cynnwys ceisiadau o bob cwr o Gymru, ac mae’n rhaid iddynt arddangos cyrhaeddiad eithriadol, a barnu eu bod wedi gwella gwyddoniaeth a chelf cynllunio gwlad a thref er budd y gymuned, neu ddarparu esiampl amlwg o effaith llesiannol cynllunio cadarnhaol.

Mae’r prosiect ‘Llunio Fy Mannau Brycheiniog’ a ddewiswyd fel un o’r rhai gorau yn y wlad, yn canolbwyntio ar gynorthwyo cymunedau yn y Parc Cenedlaethol i ysgrifennu eu Cynllun Lleoedd eu hunain. Prosiect ydyw sydd wedi’i gynllunio i annog trigolion i gymryd rhan yng nghynlluniau’r dyfodol eu hardal leol. Menter ar lawr gwlad ydyw lle gall y trigolion ymgysylltu â pholisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol a rhannu eu safbwyntiau ar sut y dylai eu tref ddatblygu, gan effeithio ar y broses gynllunio a helpu i lunio dyfodol eu tref. Cynorthwyir arweinwyr cymunedau er mwyn iddyn nhw allu cynnwys rhanddeiliaid ehangach a thrigolion i ddatblygu cynllun weithredu i gynorthwyo llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn eu cymunedau.

Mae Adran Gynllunio’r Awdurdod yn perfformio uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol mewn nifer o feysydd ac mae 97% o bob cais yn cael eu penderfynu o fewn y raddfa amser angenrheidiol, sydd gyda’r gorau yng Nghymru. 

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Hoffwn longyfarch pob aelod o staff Adran Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae gennym un o’r recordiau cynllunio gorau yng Nghymru ac mae cael ein dewis ar restr fer y wobr hon yn cydnabod yr holl waith caled sy’n cael ei wneud.”

– DIWEDD –