Cymuned Crai bellach Ar-lein a Chronfa Datblygu Cynaliadwy yn helpu gyda Neuadd Gymunedol!

Cynhaliodd cymuned Crai ddigwyddiad i ddathlu, gan fod cartrefi bellach yn gallu derbyn rhyngrwyd band eang ar gyflymder o 30mbps neu fwy, diolch i brosiect wedi’i arwain gan Dyfed Superfast. Hefyd, i’w weld yn y digwyddiad, oedd goleuadau LED newydd gwych a osodwyd gyda help Cronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fel rhan o brosiect Arbed Ynni Neuadd Crai. 

Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad i’r prosiect band eang yn Neuadd Gymunedol Crai, ac yna ymweliad byr â’r mast rhyngrwyd newydd ym Mrychgoed ar gyfer agoriad swyddogol, ac yna lluniaeth yn ôl yng Nghrai.

Roedd Crai yn rhanbarth o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog nad oedd yn derbyn rhyngrwyd a thrwy waith caled aelodau’r gymuned ac ariannu trwy Gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru, llwyddodd Dyfed Superfast i weithredu’r prosiect band eang gwledig hwn. Gan ddefnyddio technoleg o’r enw  Mynediad Diwifr Sefydlog dyma’r cyntaf o’i fath ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a bydd yn cynnig ysbrydoliaeth i gymunedau eraill sy’n wynebu’r un problemau wrth gysylltu â’r rhyngrwyd.

Nid yn unig y bydd y band eang cyflym o fudd i breswylwyr lleol ond hefyd bydd yn cynorthwyo busnesau twristiaeth o fewn yr ardal.

Dywedodd Gareth Robinson, o Dyfed Superfast: “Mae band eang cyflym yn wasanaeth hanfodol i helpu busnesau i dyfu mewn ardaloedd gwledig y wlad ac mae’n hanfodol i yrru cynhwysiant cymdeithasol wrth i fwy o wasanaethau llywodraeth ac adnoddau addysgol symud ar-lein. Ni ddylid ei gadw i ddinasoedd metropolitanaidd yn unig, a dyma pam ein bod ni’n cael gafael ar ariannu trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru i greu rhwydweithiau sefydlog a diwifr sy’n cyflenwi cyflymderau rhyngrwyd o dros 30mbps.”

Cefnogodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog y prosiect trwy ddarparu ariannu SDF ar gyfer gwelliannau goleuo ac insiwleiddio o fewn y Neuadd Gymunedol a hefyd gweithiodd yr Adran Gynllunio gyda’r holl bartneriaid i gyflawni canlyniad llwyddiannus.

Dywedodd Charles Weston, aelod o gymuned Crai: “Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych wedi’i arwain gan y gymuned a hoffwn ddiolch i’r holl bobl leol sydd wedi helpu i gyflawni hyn. Hoffwn hefyd ddiolch i  Dyfed Superfast, Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Nid yn unig y cawsom ein helpu gyda’r broses gynllunio ond hefyd fe wnaeth yr ariannu SDF ein helpu i wella ein cyfleusterau yma yn y Neuadd Gymunedol.”

DIWEDD