Penodi Prif Swyddog Gweithredol Newydd yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae’n bleser gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi eu bod wedi penodi Julian Atkins fel eu Prif Swyddog Gweithredol. Bydd Julian yn dechrau ar ei waith ar 1 Chwefror 2018.

Ar hyn o bryd Julian yw Cyfarwyddwr Rheoli Tir a Chefn Gwlad yn y parc ac fe bleidleisiodd aelodau’r Awdurdod yn unfrydol o’i blaid ar ôl ymgyrch recriwtio helaeth a phroses ddethol gystadleuol iawn a oedd yn cynnwys rhai ymgeiswyr allanol cryf iawn.

Bydd John Cook, Prif Swyddog Gweithredol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymddeol yn gynnar y flwyddyn nesaf ac yn ystod y tri mis nesaf bydd yn sicrhau bod y cyfnod trosglwyddo yn rhedeg yn llyfn ac yn effeithlon.

Croesawodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Julian i’r swydd, gan ddatgan; “Rydym wrth ein bodd fod Julian wedi’i benodi i’r swydd allweddol hon, ac rydym yn hyderus y bydd y cryfder a’r sgiliau arwain y mae wedi’u dangos yn ei yrfa hyd yma gyda ni ac yn ystod y broses ddethol yn ei roi mewn sefyllfa dda i wynebu’r heriau i ddod.”

Rhoddodd Mel ganmoliaeth hefyd i’r Prif Swyddog Gweithredol cyfredol, John Cook, a’i gyfraniad, trwy ddweud;  “Dymunaf fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn gyhoeddus i John a’i ganmol am y gwaith neilltuol y mae wedi’i wneud dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, gan weddnewid yr awdurdod hwn i’r awdurdod bywiog ac uchel ei barch sydd gennym heddiw.”

DIWEDD