Arddangosfa Pobl Ddiemwnt yn Theatr Brycheiniog

Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu yw’r lleoliad diweddaraf i ddangos Pobl Ddiemwnt, arddangosfa o ffotograffau sy’n dathlu 60 mlwyddiant Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gan agor heddiw, mae’r arddangosfa i’w weld yn Oriel Andrew Lamont yn y theatr tan 20 Tachwedd.

Mae Pobl Ddiemwnt yn cynnwys 21 portread o rai o’r bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn y Bannau. Cafodd y ffotograffydd lleol Billie Charity ei chomisiynu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i dynnu’r lluniau hyn, sydd wedi eu gosod yn nhirlun y Bannau. Mentrodd Billie i leoliadau  gan gynnwys ogofâu a mynyddoedd a bydd y cyhoedd yn gweld sawl tirlun adnabyddus o bob cwr o’r Parc Cenedlaethol.

Ymhlith y rhai a ffotograffwyd mae Tîm Achub Mynydd y Bannau ar ymarfer hyfforddi yn y Bannau Canolog, ac Elizabeth Daniel, perchennog Bythynnod Gwyliau Bannau Brycheiniog. Ceir llun o Grŵp Llwybr Troed y Gymuned Nepalaidd, yn gweithio ar Lwybr y Gyrca, llwybr troed poblogaidd yn Aberhonddu y maen nhw wedi’i adnewyddu ac y maen nhw bellach yn gofalu amdano. Gwelir Parcmyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n gofalu am y Bannau Ganolog, gan gynnwys copa adnabyddus Pen y Fan, yn cymryd seibiant ar wal gerrig gyda golygfa drawiadol. Tynnwyd llun o Rob Davies MBE, chwaraewr tennis bwrdd a enillodd Fedal Aur yn y Gemau Paralympaidd, yn nhref Talgarth ble cafodd ei fagu, a cheir llun o Helen Roderick, sy’n pori er cadwraeth, gydag un o’r gwartheg ucheldir y mae hi a’i gŵr yn eu ffermio ar yr Allt, yn Nyffryn Wysg.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae Pobl Ddiemwnt wedi bod ar daith o amgylch y Parc yn ystod yr haf, gan roi’r cyfle i nifer o bobl weld y lluniau hyfryd yma a dysgu mwy am y straeon y tu ôl i’r lluniau. Mae’r arddangosfa’n dathlu’r amrywiaeth eang o bobl a busnesau sy’n gysylltiedig â’r Bannau, gyda phob un yn cyfrannu at y Parc Cenedlaethol mewn rhyw ffordd, gan ei wneud yn lle arbennig iawn.”

Dywedodd Punch Maughan, Cydlynydd Celf Weledol Theatr Brycheiniog:

“Rydym yn falch o fod yn cynnal Pobl Ddiemwnt yn Oriel Andrew Lamont. Mae Theatr Brycheiniog yn ffodus iawn o fod wedi’i lleoli yng nghalon y Bannau; ble mae tirwedd anhygoel, treftadaeth ac economi’r Parc yn rhan annatod o bopeth yr ydym yn ei wneud yma, ac felly mae’n teimlo’n briodol iawn ein bod yn medru cynnal yr arddangosfa fel dathliad o 60 mlwyddiant y Parc Cenedlaethol. Rydym yn cynnal amrywiaeth o arddangosfeydd gan artistiaid lleol a rhanbarthol drwy gydol y flwyddyn, ac rydym wrth ein boddau o gynnig cyfle i’n hymwelwyr ddysgu mwy am y bobl sy’n cyfrannu at y Parc.”

Mae Oriel Andrew Lamont ar agor yn ystod oriau agor y theatr. Ewch i’r wefan i gael mwy o fanylion www.brycheiniog.co.uk

– DIWEDD –