Nadolig Llawn Crefftau yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Bydd Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn mynd i hwyl yr ŵyl ar nos Fawrth 5 Rhagfyr, mewn partneriaeth â Beacons View Tearoom, pan fyddan nhw’n cynnal eu digwyddiad ‘Nadolig Crefftus’.

Cynhelir Nadolig Crefftus rhwng 6pm a 9pm, gyda pharcio am ddim a dim tâl mynediad. Bydd y Ganolfan Ymwelwyr yn cynnig amrywiaeth o gelf a chrefft ar werth a bydd yr ystafelloedd te yn cynnig amrywiaeth o wahanol stondinau gan gynnwys Miss Daisy’s Kitchen, Parva Spices, Clams Cakes, Brecon Brewing, Folky Felt, Simply Christmas a llawer mwy.

I ddathlu swyn y Nadolig bydd canapés, prosecco a gwin cynnes ar gael a bydd raffl er budd Tîm Achub Mynydd Aberhonddu ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd John Cook, Prif Swyddog Gweithredol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Bydd Nadolig Crefftus yn ddigwyddiad gwych lle bydd y Ganolfan Ymwelwyr, busnesau crefft lleol a Beacons View Tearoom yn cydweithio er mwyn darparu noson o grefftau unigryw gyda bwyd a diod da.”

– DIWEDD –