Bydd hanes a threftadaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dod yn fyw mewn digwyddiad ‘Diwrnod Treftadaeth’ a gynhelir ar ddydd Sul 15 Hydref yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu. Bydd y digwyddiad, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd gwybodus, yn cael ei gynnal rhwng 9.30 – 16.30. Mae’r digwyddiad am ddim i’r cyhoedd, a gellir cael tocynnau o’r theatr.
Fel rhan o ddathliadau 60 mlwyddiant Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bydd y diwrnod yn adrodd straeon diddorol ac amrywiol y gorffennol. Mae sawl un yn credu bod tirwedd y parc yn naturiol a heb ei ddifetha, ond mewn gwirionedd mae wedi cael ei lunio a’i newid gan bobl a diwydiant dros filoedd o flynyddoedd.
Gellir gweld yr etifeddiaeth yn y dreftadaeth archeolegol amrywiol, adeiladau ac aneddiadau hanesyddol, gyda chyfoeth o archaeoleg o gylchoedd cerrig cynhanesyddol a siambrau claddu i fryngaerau o’r Oes Haearn, gwersylloedd Rhufeinig, cestyll canol oesol a gweddillion y gorffennol diwydiannol.
Bydd cyfanswm o ddeg cyflwyniad yn canolbwyntio ar wahanol bynciau hanesyddol gan gynnwys ‘Amserau Ffrwydrol’, dathliad o gyn Waith Powdr Gwn Glyn-nedd gyda Ruth Coulthard o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Phil Braithwaite o UK Restoration; ‘Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu: Problemau a Chyfleoedd’ cyflwyniad gan Andrew Stumpf o’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a ‘Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon – Cofnodi Newid a Rheoli Henebion’ sgwrs gan Amelia Pannett o CADW. Bydd siaradwyr gwadd eraill yn trafod meysydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Dywedodd Mr Julian Stedman, Aelod Eiriolwr dros Dreftadaeth Hanesyddol a Diwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hanes cyfoethog ac fe hoffem wahodd y cyhoedd i ymuno â ni yn y digwyddiad hwn. Mae gennym siaradwyr gwadd profiadol, a byddwn yn dod â threftadaeth y parc yn fyw unwaith eto.”
Mae tocynnau am ddim, ond rhaid eu harchebu o flaen llaw trwy fynd ar www.brycheiniog.co.uk.
DIWEDD