Mae deuddeg o bobl ifanc wedi llwyddo i gwblhau cwrs pythefnos o hyd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n dysgu sgiliau gwledig iddynt. Cyflwynwyd tystysgrifau iddynt yn dilyn seremoni wobrwyo gyda Dan Lydiate, chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru, Yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus. Roedd y seremoni yn nodi diwedd y broses recriwtio cyntaf ar gyfer prosiect partneriaeth dwy flynedd o hyd a gynhelir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Prince’s Trust Cymru.
Dewiswyd deuddeg person i gymryd rhan mewn diwrnod profi ym mis Awst, ac yna aethant yn eu blaenau i gwblhau’r cwrs a oedd yn cynnwys amrywiaeth o ddiwrnodau gwaith ymarferol o amgylch y parc, gan gynnwys yng Ngwaith Powdr Gwn Glyn-Nedd, Llyn y Fan, a Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Cwblhawyd cwrs ardystiedig ar sut i ddefnyddio peiriant torri llwyni gan y deuddeg a fu’n cymryd rhan, a buon nhw’n helpu gyda thasgau yn y Ffair Haf.
Nod y prosiect, a ariennir 80% gan Arwain (Cynllun Datblygu Gwledig LEADER ym Mhowys), yw ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth lawn a darparu cyfle iddynt brofi a deall y cyfleoedd sydd ar gael yn y sector treftadaeth amgylcheddol lleol. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant a rhoi cyfle i bobl ennill sgiliau a phrofiad galwedigaethol.
Yn y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ar ddydd Gwener 1 Medi 2017, bu’r rhai a fu’n cymryd rhan yn siarad yn unigol ynglŷn â sut roedd y cynllun wedi bod o fudd iddynt, a chyflwynwyd tystysgrif iddynt gan Dan Lydiate, y chwaraewr rygbi rhyngwladol.
Ar ôl y seremoni, dewiswyd chwe pherson o’r grŵp i gymryd rhan mewn hyfforddeiaeth tri mis o hyd. Bydd mentoriaid yn gweithio gyda’r rheini nad oedd yn llwyddiannus er mwyn eu helpu i ddod o hyd i waith yn y dyfodol.
Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae hwn yn gynllun gwych sy’n helpu pobl ifanc lleol i ennill sgiliau pwysig a dod o hyd i waith yn y dyfodol. Hoffwn longyfarch pawb a fu’n cymryd rhan, a diolch iddynt am ein cynorthwyo ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae gwrando ar eu straeon personol a sut mae’r cynllun wedi cael effaith gadarnhaol arnynt wedi bod yn ysbrydoledig. Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen at gael chwech ohonynt yn gweithio gyda ni dros y tri mis nesaf.”
Dywedodd Rhian Mathias, Pennaeth Menter a Chyflogaeth Prince’s Trust Cymru: “Mae’r rhaglen sgiliau gwledig cyntaf wedi bod yn llwyddiant, ac yn dyst i’r bartneriaeth rhwng Prince’s Trust a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Drwy weithio gyda’n gilydd ar y rhaglen, rydym yn gobeithio chwalu’r rhwystrau y mae pobl ifanc yn yr ardal leol yn eu hwynebu.”
Bydd y broses recriwtio ar gyfer y cynllun nesaf yn dechrau ym mis Chwefror 2018. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 18 a 30 mlwydd oed, yn byw ym Mhowys, a naill ai’n ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos. Mae diddordeb a brwdfrydedd dros weithio yn yr awyr agored yn hanfodol.
DIWEDD