Ar ôl llawer mwy o alwadau brys eleni, mae ymwelwyr yn cael eu hannog i barchu’r dŵr ym Mannau Brycheiniog
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn galw ar ymwelwyr i fod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch y dŵr wrth ymweld â’r mannau enwog ym mro’r sgydau a mannau eraill yn y Parc.
Mae degau o filoedd o ymwelwyr yn mwynhau Bro’r Sgydau bob blwyddyn. Mae’i afonydd eiconig yn falm ac yn fwynhad i lawer, ond ni ddylid bychanu eu peryglon.
Yr haf hwn, galwyd sawl gwaith ar achubwyr mynydd a gwasanaethau brys eraill. Yn drasig, mae’r galwadau hyn eisoes wedi cofnodi dwy farwolaeth eleni.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn galw ar ymwelwyr i baratoi cyn cyrraedd tirwedd garw’r ardal. Mae’n rhaid gwisgo esgidiau cadarn a dillad addas, a bod â digon o ddŵr i dorri syched ar ddyddiau poeth. Mae anafiadau i waelod y goes a bod wedi blino cymaint nes ymlâdd yn ddigwyddiadau cyffredin yn yr ardal, byddai paratoi’n drwyadl cyn cychwyn yn aml yn eu hatal.
Mae Bro’r Sgydau wedi’i dynodi’n Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yn y ceunentydd llaith, dwfn mae llawer o blanhigion, mwswgl, rhedyn a chen prin yn tyfu, rhai yn unigryw i’r ardal, ac mae’n rhaid eu gwarchod. Nid yn unig mae’n ddiogelach cadw at y llwybrau dynodedig, ond bydd hynny hefyd yn helpu i’r rhywogaethau hyn ffynnu.
Efallai bod yr afonydd yn edrych yn ddeniadol ond mae angen bod yn hynod ofalus wrth fynd i’r dŵr. Mae dŵr yr afonydd yn gallu bod yn hynod o oer ac yn gallu achosi sioc dŵr oer. Efallai na fyddwch chi’n bwriadu mynd i mewn i’r dŵr ond gallech ddioddef sioc dŵr oer wrth lithro, baglu neu ddisgyn i ddŵr agored. Nid yw sioc dŵr oer yn parhau am fwy na dwy funud, felly, y peth gorau i’w wneud yw ymlacio ac arnofio ar eich cefn nes y gallwch reoli digon ar eich anadlu i allu gwaeddi am helpu a chanfod rhywbeth i’ch helpu i arnofio neu nofio i ddiogelwch.
Meddai Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ‘Mae’n eithriadol o drist clywed am y trychinebau sy’n digwydd yn ein Parc. Mae’n meddyliau gyda’r holl deuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi dioddef o anffawd fel hyn, Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth o’r peryglon y gallai ymwelwyr eu hwynebu er mwyn atal damweiniau yn y dyfodol ac yn annog pawb i baratoi cyn ymweld â’r ardal.
Mae Jon Pimm yn warden yn yr ardal. Meddai, ‘Mae cynnydd enfawr yn yr ymwelwyr sy’n heidio i’r ardal eleni. Gyda phobl yn chwilio am wyliau haf yn y DU, rydym yn croesawu ymwelwyr newydd sydd heb lawer o brofiad o archwilio’r awyr agored ac rydym eisiau sicrhau eu bod yn paratoi ar gyfer y peryglon a allai fod yn eu hwynebu. Mae’n dirlun gwirioneddol hardd ac rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn talu sylw i’r cyngor diogelwch i wneud yn siŵr eu bod yn cael y profiad gorau posibl.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn cefnogi negeseuon diogelwchAdventureSmartUK . Os ydych yn bwriadu treulio diwrnod allan yn y Parc, ewch at www.adventuresmart.uk i gael cyngor ynghylch sut i gynllunio’ch taith i Fannau Brycheiniog yn ddiogel.
DIWEDD