Cymerwch ran yn y gystadleuaeth Bywyd Gwyllt ar fy Stepen Drws a helpu natur i adfer

Gydol mis Awst, mae gwahoddiad i bobl sy’n byw ym Mhowys ac ym Marc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gymryd rhan yn y gystadleuaeth Bywyd Gwyllt ar fy Stepen Drws sy’n cael ei rhedeg gan BIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), Partneriaeth Natur Leol Bannau Brycheiniog a Phartneriaeth Natur Powys.  Mae’r gystadleuaeth yn annog dysgu mwy am y bywyd gwyllt sydd o’n cwmpas a chofnodi’r hyn rydyn ni’n ei weld.

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, anfonwch eich hoff ffoto o fywyd gwyllt lleol, neu eich hoff le i wylio bywyd gwyllt, ac ateb tri chwestiwn syml.   Mae croeso i unigolion, grwpiau cymunedol, ysgolion, timau, clybiau ac unrhyw sefydliad arall gymryd rhan.  Y cyfan sydd ei angen yw bod pobl â diddordeb mewn gwella eu sgiliau adnabod bywyd gwyllt.  Bydd tri enillydd yn derbyn taleb £100 y Gwasanaeth Llyfrau Astudiaethau Natur yr un i brynu arweinlyfrau neu offer adnabod bywyd gwyllt i’w helpu i wella eu sgiliau adnabod bywyd gwyllt ymhellach.  Ariennir y talebau gan Bartneriaethau Natur Lleol Cymru.

Meddai Maria Golightly o Bartneriaeth Natur Leol Bannau Brycheiniog,
“Gyda’n hamgylchedd naturiol yn dirywio cymaint, rydyn ni eisiau cysylltu pobl a chymunedau gyda natur a’i adferiad.  Drwy weithio mewn partneriaeth gyda grwpiau Partneriaethau Natur Lleol eraill ar weithgareddau fel Bywyd Gwyllt ar fy Stepen Drws, rydyn ni’n annog pawb yn y Parc i fynd allan, darganfod y byd natur o’u cwmpas a sut y mae o fudd i ni i gyd”.

Ychwanegodd Ben Mullen (Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), “Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, byddwch yn gallu sôn wrthym eich hoff fywyd gwyllt  neu’ch hoff le i wylio bywyd gwyllt a chael cyfle i ddysgu mwy amdano.  A gallwch hefyd helpu i ‘roi bywyd gwyllt ar y map’ drwy droi’r hyn rydych yn ei weld yn gofnodion biolegol.  Gyda gwybodaeth fel hyn, ac yn cael ei gyflwyno gan gofnodwyr a chyfranwyr profiadol, gallwn adeiladu darlun o beth sy’n digwydd ac ymhle yn ein byd naturiol a sut i’w warchod yn well.

Meddai Holly Dillon o Bartneriaeth Natur Powys,
“Trwy’r gystadleuaeth hon, rydyn ni’n annog pawb i fynd allan i’r awyr agored a dysgu mwy am y bywyd gwyllt ar eu stepen drws.  Mae hyn yn gyfle ffantastig i’r Partneriaethau Natur Lleol weithio gyda’i gilydd at ein nod cyffredin o godi ymwybyddiaeth o natur ledled Cymru”.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ar gyfer Bywyd Gwyllt ar fy Stepen Drws yw 31 Awst, mae manylion llawn sut i gymryd rhan ar www.eventbrite.co.uk/e/wildlife-on-my-doorstep-competition-until-31st-august-tickets-164307089929

DIWEDD