Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi lansio, yn swyddogol, rwydwaith newydd o helwyr coed i gofnodi coed hen a hynafol y Parc. Yn eu cyfarfod hyfforddi cyntaf yn ddiweddar yn Abaty Llanddewi Nant Hodni, mae Wardeiniaid Coed Bannau Brycheiniog wedi cychwyn ar y dasg anferth bum mlynedd o fapio coed hanesyddol bwysig ledled y parc.
Yn ystod y diwrnod lansio, arweiniodd Warden y Parc Cenedlaethol a Chydlynydd y Grŵp, Sam Harpur, and Rob McBride, sydd newydd orffen mapio‘r coed gwych ar Lwybr Clawdd Offa, y wardeiniaid ar eu helfa coed hynafol gyntaf. Gwirfoddolwyr yw pob un o’r wardeiniaid coed, sy’n cynnwys aelodau o grwpiau coetir a chadwraeth lleol yn ogystal â rhai gwybodus sydd wedi gwirioni ar goed. Bydd pob warden yn gyfrifol am ardal wahanol o’r Parc Cenedlaethol, yn casglu manylion, ystadegau a lluniau o’r coed o’u cwmpas ac yn cofnodi data ar ap mapio canolog.
Mae nodau hir dymor wardeiniaid coed Bannau Brycheiniog yn cynnwys rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau a rhwydweithiau ledled Cymru a’r DU. Mae yna gynlluniau i gynorthwyo gyda rheoli a diogelu’r coed nodweddiadol i’r cenedlaethau i ddod ac ar gyfer y bywyd gwyllt a’r bioamrywiaeth y maen nhw’n eu cefnogi. Fel storfa carbon ffantastig, mae coed, yn enwedig amrywiaethau hen a hynafol sydd â mwy o allu i gloi carbon, yn chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd sydd hyd yn oed yn fwy o reswm i’w cofnodi.
Meddai Sam Harpur, Cydlynydd Wardeiniaid Coed Bannau Brycheiniog: “Rwyf wrth fy modd yn lansio’r grŵp wardeiniaid coed Bannau Brycheiniog ac i gychwyn ar ein taith i fapio cymaint o goed sy’n bwysig yn hanesyddol yn ein tirwedd ddynodedig. Does yr un wedi’i chofnodi’n llawn tan nawr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu ein canfyddiadau gyda chymunedau lleol a phobl ifanc, gan eu hannog i ddathlu ac i drysori’r genhedlaeth hŷn o goed ym Mannau Brycheiniog.
Ychwanegodd Rob McBride, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel yr Heliwr Coed: “Hyd yn oed yn ystod yr helfa goed gyntaf, roedd y grŵp wedi darganfod nifer o goed arwyddocaol yn ddiwylliannol, gan gynnwys Coeden Gellyg Cwm-bwchel a choeden afal ffenics. Roedd dod ar draws coeden onnen 300 mlwydd oed wedi’i thocio yn ddiwedd cofiadwy i ddiwrnod o drochiad mewn cefn gwlad hardd ac rwy’n edrych ymlaen at ganfod rhagor o ryfeddodau anhygoel y byd coed ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”
Mae wardeiniaid coed Bannau Brycheiniog a’r prosiect mapio coed wedi derbyn cefnogaeth ariannol oddi wrth Gronfa Ddatblygu Cynaliadwy yr Awdurdod a Thirweddau Cynaliadwy, Rhaglen Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.