Wardeiniaid Bannau Brycheiniog yn cychwyn ar helfa goed ledled y parc

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi lansio, yn swyddogol, rwydwaith newydd o helwyr coed i gofnodi coed hen a hynafol y Parc.   Yn eu cyfarfod hyfforddi cyntaf yn ddiweddar yn Abaty Llanddewi Nant Hodni, mae Wardeiniaid Coed Bannau Brycheiniog wedi cychwyn ar y dasg anferth bum mlynedd o fapio coed hanesyddol bwysig ledled y parc.

Wardeiniaid Coed Bannau Brycheiniog yn darganfod coeden gellyg hynafol ar eu helfa goed swyddogol gyntaf uwch ben Abaty Llanddewi Nant Hodni.

Wardeiniaid Coed Bannau Brycheiniog yn darganfod coeden gellyg hynafol ar eu helfa goed swyddogol gyntaf uwch ben Abaty Llanddewi Nant Hodni.

Yn ystod y diwrnod lansio, arweiniodd Warden y Parc Cenedlaethol a Chydlynydd y Grŵp, Sam Harpur, and Rob McBride, sydd newydd orffen mapio‘r coed gwych ar Lwybr Clawdd Offa, y wardeiniaid ar eu helfa coed hynafol gyntaf.  Gwirfoddolwyr yw pob un o’r wardeiniaid coed, sy’n cynnwys aelodau o grwpiau coetir a chadwraeth lleol yn ogystal â rhai gwybodus sydd wedi gwirioni ar goed.  Bydd pob warden yn gyfrifol am ardal wahanol o’r Parc Cenedlaethol, yn casglu manylion, ystadegau a lluniau o’r coed o’u cwmpas ac yn cofnodi data ar ap mapio canolog.

Mae nodau hir dymor wardeiniaid coed Bannau Brycheiniog yn cynnwys rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau a rhwydweithiau ledled Cymru a’r DU. Mae yna gynlluniau i gynorthwyo gyda rheoli a diogelu’r coed nodweddiadol i’r cenedlaethau i ddod ac ar gyfer y bywyd gwyllt a’r bioamrywiaeth y maen nhw’n eu cefnogi. Fel storfa carbon ffantastig, mae coed, yn enwedig amrywiaethau hen a hynafol sydd â mwy o allu i gloi carbon, yn chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd sydd hyd yn oed yn fwy o reswm i’w cofnodi.

Meddai Sam Harpur, Cydlynydd Wardeiniaid Coed Bannau Brycheiniog: “Rwyf wrth fy modd yn lansio’r grŵp wardeiniaid coed Bannau Brycheiniog ac i gychwyn ar ein taith i fapio cymaint o goed sy’n bwysig yn hanesyddol yn ein tirwedd ddynodedig. Does yr un wedi’i chofnodi’n llawn tan nawr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu ein canfyddiadau gyda chymunedau lleol a phobl ifanc, gan eu hannog i ddathlu ac i drysori’r genhedlaeth hŷn o goed ym Mannau Brycheiniog.

Ychwanegodd Rob McBride, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel yr Heliwr Coed: “Hyd yn oed yn ystod yr helfa goed gyntaf, roedd y grŵp wedi darganfod nifer o goed arwyddocaol yn ddiwylliannol, gan gynnwys Coeden Gellyg Cwm-bwchel a choeden afal ffenics. Roedd dod ar draws coeden onnen 300 mlwydd oed wedi’i thocio yn ddiwedd cofiadwy i ddiwrnod o drochiad mewn cefn gwlad hardd ac rwy’n edrych ymlaen at ganfod rhagor o ryfeddodau anhygoel y byd coed ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

Mae wardeiniaid coed Bannau Brycheiniog a’r prosiect mapio coed wedi derbyn cefnogaeth ariannol oddi wrth Gronfa Ddatblygu Cynaliadwy yr Awdurdod a Thirweddau Cynaliadwy, Rhaglen Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.