Daeth dros 90 o bartneriaid, busnesau a grwpiau cymunedol at ei gilydd yn nigwyddiad blynyddol ‘Twristiaeth yn y Parc’ a gynhaliwyd yn Neuadd Pentref Llangynidr. Thema’r diwrnod oedd ‘Blwyddyn y Chwedlau’, sef ymgyrch Croeso Cymru 2017 i hyrwyddo Cymru’n gyrchfan gwyliau ac, ar ôl prif araith gan Beth Wicks o Groeso Cymru, bu’r cyfranogwyr yn archwilio mythau a chwedlau’r Parc Cenedlaethol.
Daeth busnesau lleol i’r llwyfan i rannu chwedlau lleol am seintiau pengoll, pechaduriaid a chantorion opera. Darparwyd bwyd blasus gan Pilgrims yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Yn ystod y gynhadledd hefyd cyflwynwyd casgliad o straeon a ailadroddwyd mewn arddull gyfoes gan yr awdur a’r newyddiadurwr arobryn, Horatio Claire, mewn cydweithrediad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mythau a chwedlau traddodiadol am Fannau Brycheiniog yw’r straeon, sy’n cael eu hadrodd o’r newydd i gynulleidfa fodern. Byddant yn cael eu lansio mewn llyfr o straeon byrion o’r enw ‘Bannau Brycheiniog Myths and Legends’ yn ddiweddarach yn y gwanwyn.
Ychwanegodd Laura Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol, Twristiaeth Bannau Brycheiniog:
“Mae Bannau Brycheiniog mewn safle perffaith i fanteisio ar thema Chwedlau, a chynifer ohonynt wedi’u gwreiddio yn y dirwedd hon. Cafodd busnesau a chymunedau’r cyfle i ddysgu am eu chwedlau lleol. Roeddem mor falch fod y Gynhadledd Dwristiaeth wedi denu cynifer a llwyddo cystal. Yn sgil y cyflwyniadau ar bobl, lleoedd a chynhyrchion chwedlonol, crëwyd cryn gyffro am y flwyddyn sydd i ddod.”
Dywedodd Julian Atkins, Cyfarwyddwr Rheoli Tir a Chefn Gwlad Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a Chadeirydd y gynhadledd eleni:
“Llwyddodd y Gwobrau Twristiaeth, a drefnwyd gan Dwristiaeth Bannau Brycheiniog ar ddiwedd 2016, i fagu gwir fwrlwm ynghylch y busnesau, yr atyniadau a’r bwyd sydd ar gael yn y Bannau. Roedd yn bleser gennym groesawu cynifer o fusnesau twristiaeth i’r gynhadledd, ac mae cyffro mawr am gydweithio i hyrwyddo Bannau Brycheiniog fel cyrchfan. Mae cyfathrebu’n allweddol er mwyn i’r fenter lwyddo, ac mae’r cyrchfan yn edrych ymlaen at groesawu’r 5 miliwn o ymwelwyr a ddisgwylir yn 2017.”
Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Thwristiaeth Bannau Brycheiniog ar ran Partneriaeth Cyrchfan Cynaliadwy Bannau Brycheiniog.
DIWEDD