Mae arddangosfa o bortreadau ffotograffig nawr ar agor yn oriel Llyfrgell Aberhonddu tan 28 Awst. Mae Pobl Ddiemwnt yn dathlu pen-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 60 mlwydd oed, ac mae’n cynnwys 21 o bortreadau sy’n cynrychioli’r bobl wych sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn y Bannau Brycheiniog. Agorwyd yr arddangosfa gan y Cynghorydd David Meredith ynghyd â Maer Aberhonddu, y Cynghorydd Ieuan Williams a nifer o’r ‘Bobl Ddiemwnt’.
Comisiynwyd Billy Charity, ffotograffwraig leol, gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i dynnu’r lluniau sydd wedi eu tynnu ar dirwedd y Bannau Brycheiniog. Mentrodd Billie i leoliadau ledled y parc gan gynnwys ogofâu, mynyddoedd, a chaeau defaid. Ymhlith y rhai y bu hi’n tynnu eu llun roedd Rob Davies, MBE, chwaraewr tennis bwrdd Paralympaidd sydd wedi ennill Medal Aur dros Brydain – tynnwyd ei lun yn Nhalgarth, y dref y cafodd ei fagu ynddi. Tynnwyd llun rhai o’r 200 sy’n gwirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys y gwirfoddolwyr sy’n cynnal llwybrau troed poblogaidd y parc yn cerdded dros y Blorens ac yn edrych i lawr ar Aberhonddu. Tynnwyd llun Ashford Price o Dan-yr-Ogof, Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru, yn un o’r ogofâu trawiadol. Tynnwyd llun Helen Roderick gydag un o’r gwartheg ucheldir y mae hi a’i gŵr yn eu ffermio ar yr Allt, yn uchel yn Nyffryn Wysg. Tynnwyd llun y distyllwr sy’n troi dŵr Cymru’n wisgi yn Nistyllfa Penderyn, a Choedwigwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gofalu am y Bannau canolog, gan gynnwys Pen y Fan, yn cymryd hoe fach ar wal gerrig i edrych ar olygfa odidog.
Dywedodd Billie: “Rwyf wedi dod o hyd i lefydd yn y Bannau Brycheiniog nad oeddwn i’n gwybod yr oeddent yn bodoli o’r blaen drwy weithio ar y prosiect hwn, ac rwyf wedi cwrdd â rhai o’r bobl hyfryd sy’n byw ac yn gweithio yno.”
Dywedodd y Cynghorydd David Meredith, Aelod Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn ei araith wrth agor yr arddangosfa;
“Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr arddangosfa ddathliadol hon, yn enwedig y rheini a roddodd o’u hamser i gael tynnu eu llun. Diolch yn arbennig i Billy Charity sydd wedi llwyddo darlunio cymeriad pawb yn y lluniau i’r dim ac i Carol Williams, Swyddog Twf Twristiaeth y Parc Cenedlaethol am gydlynu’r prosiect dathlu 60 mlynedd.”
Roedd John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn bresennol hefyd, a dywedodd;
“Mae’r Bannau Brycheiniog yn Barc Cenedlaethol bywiog tu hwnt. Mae’r arddangosfa yn profi hyn drwy ddangos yr ystod eang o ffyrdd y mae pobl yn gallu bod yn gysylltiedig â’r parc. Mae rhai yn gwarchod ei harddwch naturiol, mae rhai yn helpu ymwelwyr i ddeall a mwynhau’r parc, ac mae gan eraill sy’n byw ac yn gweithio yma fusnesau llewyrchus. Mae pawb y tynnwyd eu llun wedi cyfrannu at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rywsut, gan ei helpu i fod y lle arbennig y mae ef heddiw.
Bydd yr arddangosfa yn teithio o amgylch y parc drwy’r flwyddyn ac yn nechrau 2018. O 1 Medi ymlaen, mi fydd yng Nghanolfan y Mynyddoedd Du ym Mrynamon uchaf. Gellid ei weld hefyd yn y Parti yn y Parc ar 30 Gorffennaf yng Nghanolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol, Libanus a Chraig-y-nos. Ewch i http://www.bannaubrycheiniog.org/yr-awdurdod/dathliadau-60fed/ uk am fanylion llawn.
DIWEDD