Seminar Parciau Cenedlaethol Cymru yn llwyddiant ysgubol

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Seminar Aelodau Parciau Cenedlaethol Cymru yng Ngwesty’r Castell yn Aberhonddu. Thema’r seminar eleni oedd ‘Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol’. Bu’r seminar blynyddol yn llwyddiant ysgubol, gyda’r tri Pharc Cenedlaethol yn edrych ar faterion a fydd yn llywio dyfodol y Parciau Cenedlaethol a thirweddau gwarchodedig eraill yng Nghymru. 

Daeth mwy na 50 o aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog ynghyd i drafod sut y gall Parciau Cenedlaethol gyflawni rhai o amcanion Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys sut y gallant helpu cymunedau i fod yn fwy cydnerth, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Dewiswyd y thema ‘Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol’ gan fod y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn ceisio cyflawni’r amcanion tymor hir sydd wrth wraidd Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng ngoleuni’r pwysau cynyddol ar y gyllideb, yr adolygiad o Dirweddau Gwarchodedig yng Nghymru ac adroddiad diweddar Comisiwn Williams ar uno Cynghorau.

Yn ystod y ddau ddiwrnod dwys ac addysgiadol, aeth yr Aelodau ati i ymweld â gwahanol safleoedd ledled Bannau Brycheiniog, gan gynnwys rhandiroedd Llangatwg, Grŵp Coetir Llangatwg, Dyffrynnoedd Gwyrdd Llangatwg, y Rhwydwaith Teithio Eco, Melin Talgarth a Chastell y Gelli Gandryll – detholiad o brosiectau sy’n dangos buddsoddiadau ynni cymunedol, datblygiadau menter, swyddi, cynaliadwyedd a bywiogrwydd gwledig.

Cafodd aelodau hefyd wybodaeth werthfawr gan Julie Furber o Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) am brosiect hyfforddi ‘Skills in Action’ y Gronfa a chymorth i’r dyfodol ar gyfer treftadaeth naturiol.

Roedd uchafbwyntiau’r ddau ddiwrnod yn cynnwys cinio traddodiadol wedi’i ddarparu gan gatrawd y Ghurkha Brigade a lansio’r arsyllfa Awyr Dywyll newydd yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Gyda’r nos, gwnaeth cynrychiolwyr gyfraniad sylweddol at y Gurkha Welfare Trust Charity a gyflwynir yn ffurfiol i’r gatrawd yn yr wythnos nesaf.

Wrth wneud sylwadau ar thema’r seminar, dywedodd y Cynghorydd Geraint Hopkins, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi bod y seminar ‘Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol’ wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Dros y misoedd nesaf, mae gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol benderfyniadau anodd i’w gwneud – a rhaid i’r penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud fod yn rhai priodol i bobl a busnesau lleol ac ymwelwyr â Bannau Brycheiniog a byd sy’n newid. Amlygodd y seminar hwn pa mor barod yw’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru i weithio gyda’i gilydd a chyda phartneriaid ar yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu, rhannu profiadau ac ennill gwybodaeth newydd.”

-DIWEDD-