Mae’r Aelod Cynulliad Eluned Morgan wedi ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Y Ganolfan Fynydd – i weld y newidiadau sy’n cael eu gwneud yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol drosti ei hun. Cyfarfu’r Aelod Cynulliad Rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru â Phrif Weithredwr yr Awdurdod, John Cook a’r Cadeirydd, Melanie Doel a gyflwynodd hi i staff y Parc Cenedlaethol sy’n gweithio gyda’r cymunedau a’r busnesau twristiaeth ar draws y Parc Cenedlaethol. Roedd hi’n falch bod y ganolfan ar agor fel arfer a bod gwelliannau wedi cael eu gwneud ar gyfer y dyfodol.
Esboniodd rheolwr a staff ystafelloedd te’r Ganolfan y newidiadau sy’n digwydd i roi rhyddfraint yr ystafelloedd te i gwmni preifat ac y bydd y ddesg wybodaeth yn agor ar gyfer y tymor newydd mewn dau fis. Cyfarfu â’r gydweithfa gelf a chrefft leol Platform 1 sydd wedi meddiannu siop y llawr cyntaf yn ystod cyfnod y Nadolig a misoedd y gaeaf er mwyn gwerthu eu crefftau. Cyflwynwyd yr AS hefyd i’r rhaglen Llysgenhadon – hyfforddiant i fusnesau twristiaeth sy’n para tridiau ar beth sy’n gwneud y Parc mor arbennig – rhan o waith helaeth yr Awdurdod ar dwristiaeth sydd yn sicrhau fod gwybodaeth ar gael i ymwelwyr o ystod eang o ffynonellau. Cafodd glywed hefyd am waith yr Awdurdod gyda Chymuned Pontsticill i wneud y pentref hyd yn oed yn fwy deniadol i Ymwelwyr.
Gwnaeth y newidiadau gryn argraff ar yr Aelod Cynulliad Llafur, a dwedodd;
“Mae’r ffordd y mae’r Ganolfan yn cael ei rhedeg wedi newid yn aruthrol sy’n golygu y gall hi aros ar agor trwy’r flwyddyn. Crefftwyr lleol sy’n gweithio yn y siop ar ôl i’r prif dymor twristiaid ddod i ben. Mae hyn yn golygu y gall y siop barhau ar agor ac mae’n sicrhau y gall ymwelwyr fynd â rhywbeth sy’n eu hatgoffa nhw o’u hymweliad â Bannau Brycheiniog adre gyda nhw. Mae rhaglen y Llysgenhadon yn golygu y gall gweithwyr twristiaeth lleol a gyrwyr tacsi roi mwy o wybodaeth i ymwelwyr am ardal ehangach Bannau Brycheiniog, gan annog ymwelwyr i deithio ychydig yn bellach trwy’r Parc Cenedlaethol gan ledaenu’r lles economaidd.”
Ychwanegodd Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol Mel Doel;
“Roedden ni wrth ein boddau’n croesawu’r Aelod Cynulliad Eluned Morgan i’r ganolfan wych hon. Fel nifer o bobl eraill roedd hi wedi clywed straeon hollol anghywir am ei dyfodol felly roedd hi’n falch i weld y siop gelf a chrefft lewyrchus y mae 12 busnes lleol bellach yn helpu ei rhedeg, a chreodd yr ardal wybodaeth sydd newydd gael ei hadnewyddu gryn argraff arni yn ogystal â newyddion am gynlluniau’r bythol boblogaidd ystafelloedd te yn y dyfodol. Wrth i eleni – blwyddyn ein pen-blwydd yn 60 – fynd yn ei blaen, dwi’n gobeithio y bydd mwy a mwy o bobl yn dilyn Eluned Morgan AC i’r Ganolfan Ymwelwyr yn y bryniau ger Libanus a’u bod nhw’n ymhyfrydu cymaint â hi ar yr hyn sydd yma ac yn croesawu’r newidiadau rydym wedi eu cyflwyno.”
Y DIWEDD
- Yr Awdurdod
- Ymgynghoriad
- Cais i siarad mewn Pwyllgorau
- Côd ymddygiad diwygiedig
- Cynulliad Dinasyddion
- Ein Partneriaid
- Hysbysiad Preifatrwydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau
- Llyfrgell ddogfennau
- Rhoddion ac Ewyllysiau
- Tendr
- Tystiolaeth ac Ymchwil
- Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog
- Cysylltiadau
- Aelodau/Pwyllgorau
- Amdanom ni
- Fforwm Mynediad Lleol
- Ffeithiau a Ffigurau
- Am y safle hwn
- Swyddi Gwag
- Ffilmio yn y Parc
- Y Wasg, y cyfryngau a ffilm
- Y wasg a’r cyfryngau
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a chanllawiau ar gyfryngau cymdeithasol
- Datganiadau i’r Wasg
- Chwefror 2023
- Ebrill 2023
- Gorffennaf 2023
- Gorffennaf 2024
- Hydref 2024
- Ionawr 2023
- Mai 2023
- Medi 2023
- Medi 2024
- Mehefin 2024
- Rhagfyr 2022
- Rhagfyr 2023
- Rhagfyr 2024
- Tachwedd 2023
- Awst 2022
- Ebrill 2022
- Gorffennaf 2022
- Hydref 2022
- Ionawr 2022
- Mai 2022
- Mawrth 2022
- Medi 2022
- Mehefin 2022
- Miloedd o ddisgyblion yn ymrwymo i weithredu hinsawdd
- Tachwedd 2022
- Dyfarniadau Diweddaraf o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy
- Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth alw ar y Llywodraeth
- Mesurau Argyfwng COVID-19 i lwybr a maes parcio.
- Archif
- 2018
- 2019
- 2021
- 2022
- 2020
- 2015
- 2016
- 2017
- Awst 2017
- Chwefror 2017
- Ebrill 2017
- Gorffennaf 2017
- Hydref 2017
- Ionawr 2017
- Galw am Wirfoddolwyr i helpu i drwsio mynyddoedd
- Gwirfoddolwyr Bannau Brycheiniog yn dathlu ennill dwy wobr yng Ngwobrau Parciau Cenedlaethol y DU
- Partner Newydd i Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon wedi symud ymlaen yn llwyddiannus at gam 2 gyda dull newydd o reoli tiroedd comin mynyddig
- Weatherman Walking yn crwydro’r bryniau
- Ymweliad â Chanolfan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog yn creu argraff ar Eluned Morgan AC
- Mai 2017
- Mawrth 2017
- Medi 2017
- Mehefin 2017
- Tachwedd 2017
- 2011
- 2012
- 2013
- 2014
- E-Gwasanaethau
- Cyfleoedd Gwirfoddoli
- Newyddion
- Diweddariad Gwasanaethau Cynllunio
- Riportio problemau
- Taflenni Ffeithiau ar gyfer Cwestiynau Cyffredin
- Llyfrgell Dogfennau
- Gweithio mewn Partneriaeth
- Gwe-ddarlledu
- Cwynion, Canmoliaeth ac adborth