Partner Newydd i Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Heddiw, yn dilyn tendr agored cyhoeddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fod Aramark Limited wedi cael ei ddewis i redeg y caffi a’r ystafell de yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol o 1 Ebrill 2017 ymlaen.

Bydd pawb o’r staff presennol yn cael eu cyflogi gan y darparwr newydd. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr fod y caffi’n parhau i gyflwyno’r gwasanaeth gwych y mae’r ymwelwyr wedi dod i arfer ag ef. Llwyddodd Aramark i greu argraff ar yr Awdurdod o ran eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n gwneud y lleoliad yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr a’r gymuned leol. Roedden nhw hefyd yn barod i wneud buddsoddiad sylweddol i wella’r caffi hefyd. Bydd Aramark yn buddsoddi £50,000 yn gwella’r cyfleusterau ac ymddangosiad y caffi. Dywedodd Marie Healy, Rheolwr Datblygu Busnes Aramark:
“Rydym yn gyffrous iawn o ennill y contract hwn. Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn safle eiconig sy’n denu twristiaid a thrigolion lleol fel ei gilydd. Credwn y gallwn ychwanegu gwir werth i’r naws ac i’r arlwy yn yr ystafell de fel y byddan nhw eisiau dod nôl dro ar ôl tro. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb ym mis Ebrill.”

Creodd y siop grefftau ac anrhegion newydd sy’n cael ei rhedeg gan grŵp cynhyrchwyr crefftau lleol Platform One argraff ar yr ymwelwyr a ddaeth i’r ganolfan yn ystod y gaeaf eleni. Cadarnhaodd yr Awdurdod hefyd y bydd y bartneriaeth yn parhau i 2017. Bydd y rhaglen ddigwyddiadau’n parhau yn y Ganolfan yn 2017 gyda digwyddiadau gwylio sêr, sioeau pebyll Cotswold, digwyddiadau llywio, gweithgareddau i blant a’n Ffair Haf dros ŵyl y banc mis Awst.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
“Mae’r Awdurdod wrth ei fodd ei fod yn gweithio gyda’n partneriaid i barhau i sicrhau bod Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn un o brif atyniadau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Bydd y partneriaethau hyn yn helpu i sicrhau bod y Ganolfan yn cynnal ei hun yn ariannol i’r dyfodol.”

DIWEDD