Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon wedi symud ymlaen yn llwyddiannus at gam 2 gyda dull newydd o reoli tiroedd comin mynyddig

Heddiw, cyhoeddodd grŵp lleol – Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon – fod ei gais i symud ymlaen at gam 2 o broses Llywodraeth Cymru i wneud cais ar gyfer Cynllun Rheoli Cynaliadwy. Mae’r bartneriaeth yn gobeithio ariannu prosiect gwerth miliwn o bunnoedd a fydd, os yn llwyddiannus, yn galluogi’r bartneriaeth i gynnal amrywiaeth eang o weithgareddau newydd ac ymarferol ar draws ardal y Mynyddoedd Duon, mewn partneriaeth arloesol a allai ddylanwadu ar reoli tir mewn mannau eraill.

Mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon yn dod â ffermwyr a phorwyr sy’n byw, gweithio, a rheoli da byw ar y Mynyddoedd Duon, tirfeddianwyr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru ynghyd. Y bwriad ydy trafod a chydweithio ar reolaeth, cynaladwyedd a chadwraeth y Mynyddoedd Duon heddiw ac yn y dyfodol. Bydd y prosiect yn cyflymu’r broses barhaol o wella a rheoli’r Mynyddoedd Duon – darn eang eiconig o gomin ucheldirol sy’n pontio Cymru a Lloegr dros Sir Frycheiniog, Sir Fynwy a Swydd Henffordd.

Dwedodd Phil Stocker, Prif Weithredwr Y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol a Chadeirydd Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon: “Rydyn ni mor hyderus ag y gallwn ni fod am gam dau’r cynnig am gyllideb, ar ôl pasio cam un yn llwyddiannus rai misoedd yn ôl. Rydyn ni wedi bod yn cynllunio’r prosiect ers bron i flwyddyn a gallai’r freuddwyd droi’n realiti cyn bo hir os byddwn yn derbyn yr arian, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol y Mynyddoedd Duon, i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yno, ac i’r miloedd o ymwelwyr sy’n mwynhau’r ardal ucheldirol brydferth hon.”

Gwahoddwyd Mr Stocker i fod yn Gadeirydd ar y Bartneriaeth gan y partneriaid yn 2015, a dwedodd hefyd: “Mae paratoi’r cais ariannol hwn eisoes wedi bod yn ddefnyddiol i roi ffocws ymarferol i’r partneriaid i ddod ynghyd i drafod materion eithaf heriol. Byddai llwyddiant yn galluogi’r Bartneriaeth i barhau gyda’i chylch gwaith o reoli a gwella amgylchedd ucheldirol y Mynyddoedd Duon. Mae hyn yn cynnwys gwaith rheoli rhedyn, gwella cynefinoedd mawn gyda’r potensial o edrych i mewn i system wrthbwyso carbon, yn ogystal â rheoli ac addysgu twristiaid, hyfforddiant i annog twristiaeth fwy cyfrifol, ymrwymo pobl leol, a datblygu busnes.”

“Bydd y cynllun gwaith a gefnogir gan y cynnig yn cynorthwyo Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon i gyrraedd ei nod o wella ansawdd cynefinoedd ffermio ac amgylcheddol, gwarchod adnoddau gwerthfawr fel dŵr a phridd, bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, a lles ac iechyd economaidd y rheiny sy’n byw a gweithio yn yr ardal eiconig hon. Am fwy o wybodaeth am sut mae’r Bartneriaeth yn gweithio dilynwch ni ar Twitter @BMLUP.”