Mae dyfodol cyn safle Gwaith Powdr Gwn, yng Nghlyn-nedd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ddiogel diolch i grant Loteri Genedlaethol o £659,000. Mae’r grant yn cydnabod y lleoliad fel un o’r safleoedd treftadaeth diwydiannol pwysicaf yn Ne Cymru. Bydd y grant llwyddiannus yn golygu bod modd dechrau ar y gwaith o ddiogelu olion yr Heneb Gofrestredig gyda’r nod o agor y safle i’r cyhoedd erbyn haf 2019.
Bydd y prosiect hwn, a elwir yn ‘Explosive Times’, yn sicrhau bod gweddillion Gwaith Powdr Gwn Glyn-nedd – heneb gofrestredig – yn cael eu cadw yn eu lleoliad unigryw sy’n ymestyn dros filltir a hanner ar hyd glannau Afon Mellte. Bydd hefyd yn diogelu dyfodol tymor hir y safle ac yn dod â hanes rhyfeddol y safle yn fyw. Roedd y gwaith anghysbell yn nyffryn Afon Mellte yn un o ddau safle yng Nghymru a oedd yn cynhyrchu powdr ffrwydro (a oedd yn cael ei alw’n bowdr du) i’w ddefnyddio wrth gloddio am lo a chwarelu am galchfaen yn ystod y chwyldro diwydiannol yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Erbyn 1940, nid oedd y safle’n cael ei ddefnyddio o gwbl, ac roedd nifer o’r adeiladu wedi llosgi allan ac wedi’u dinistrio oherwydd y risg o ffrwydradau damweiniol o’r powdr du. Ers hynny, mae natur a’r goedwig o amgylch yn raddol wedi meddiannau gweddillion y safle.
Dyfarnodd y Loteri Genedlaethol grant dechreuol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yng Ngorffennaf 2015 i ddatblygu’r prosiect ac mae dyfarnu’r grant rownd dau hwn yn ganlyniad i sawl blwyddyn o waith caled gan dîm gweithgar y prosiect. Mae contractwyr eisoes wedi dechrau ar y gwaith o sefydlogi’r strwythurau mwyaf bregus ar y safle. Bydd y prosiect hwn yn adnewyddu 10 adeilad ac yn datblygu dulliau dehongli i adrodd stori ddramatig ‘Explosive Times’ er mwyn helpu pobl i ddeall sut oedd y safle yn gweithio. Bydd y prosiect hefyd yn helpu i gydnabod rhan bwysig o dreftadaeth y gymuned leol ac yn rhoi cyfle i bobl brofi prosiect adnewyddu a chadw cyffrous. Bydd y prosiect hefyd yn adfer y coetir hynafol pwysig o amgylch ac mae Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog wedi bod yn weithgar yn datblygu darn hwn y prosiect; bydd hyn yn galluogi nifer o rywogaethau prin i ffynnu yn yr ardal unwaith yn rhagor.
Meddai Ruth Coulthard, Rheolwr Prosiect Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;
“Bydd grant y Loteri Genedlaethol yn arwain at nifer o gyfleoedd cyffrous ar gyfer cadw a dathlu’r safle pwysig hwn. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r gymuned leol, yn enwedig ysgolion lleol, gan gynnig gwersi addysgol mewn ysgolion a hefyd ar y safle. Byddwn yn recriwtio ar gyfer nifer o swyddi gwirfoddol a rhaglen profiad gwaith i 20 o bobl ifanc o ddiwedd Ebrill/Mai, a byddwn yn parhau i ymgysylltu gyda busnesau i sicrhau bod yr economi leol yn sicrhau’r manteision gorau posibl o’r prosiect lleol hwn.”
Meddai Mel Doel, Cadeirydd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;
“Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol am yr ail grant yma ac am barhau i gefnogi prosiect Explosive Times. Ni fyddai’r llwyddiant hwn wedi digwydd ar ben ei hun ac felly rydym yn ddiolchgar hefyd am yr arian ychwanegol a dderbyniwyd oddi wrth Gymdeithas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog, Cronfa Datblygu Cynaliadwy, Ymddiriedolaeth Gibbs, Cadw a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae cyfanswm cost gwireddu’r prosiect ychydig dros 1 filiwn, ac yn un o’r prosiectau adnewyddu treftadaeth adeiledig fwyaf y mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ymgymryd ag ef erioed. Gwn fy mod yn siarad ar ran pawb yma pan ddywedaf na allwn aros i weld sut fydd y Gwaith Powdr Gwn yn edrych wrth iddo gael ei adnewyddu. Dyma brosiect cyffrous iawn.”
Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru;
“Diolch i arian chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y grant sylweddol hwn yn galluogi Awdurdod y Parc Cenedlaethol i weithio gyda’r gymuned leol i achub y safle treftadaeth unigryw a phwysig hwn i Gymru. Edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn datblygu dros y tair blynedd nesaf, gan annog pobl heddiw a chenedlaethau’r dyfodol i ymddiddori mewn safle a oedd unwaith yn ffynnu.”
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â explosivetimes@beacons-npa.gov.uk neu dilynwch Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar Facebook am newyddion diweddaraf y prosiect @breconbeaconsnationalpark.
DIWEDD