Derbyn Ceisiadau ar gyfer y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn awr ar agor i brosiectau sydd wedi’u cynllunio i gyflawni ffordd fwy cynaliadwy o fyw. Tîm Cymunedau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n rheoli’r gronfa ac maent yn chwilio am brosiectau sydd angen cymorth ariannol – yn enwedig prosiectau sy’n ymwneud ag ynni gwyrdd, hyrwyddo datblygiad economaidd gwledig, treftadaeth, cymunedau neu iechyd a llesiant.

Dyfarnodd y Gronfa Datblygu Gynaliadwy ddeuddeg grant dros fisoedd y gaeaf 2106-17. Derbyniodd Mind Aberhonddu a’r Cylch £3,500 tuag at eu prosiect Gwirfoddoli Eco, dyfarnwyd £6,000 i Cadwch Gymru’n Daclus tuag at y prosiect Llesiant sy’n ymchwilio i’r rhwydwaith o ffynhonnau cysegredig, Ffynhonnau Sanctaidd a Spas Meddyginiaethol yng Nghymru. Cafodd The Corn Exchange Ltd, Crucywel gynnydd o £4,000 mewn grant i barhau i ariannu swydd hanfodol. Ariannwyd tri phrosiect neuaddau pentref: bydd Neuadd Henderson, Tal-y-bont ar Wysg yn rhoi eu £5,803 tuag at wneud y neuadd yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn cyd-fynd â dyfarniad adnewyddu’r Loteri Fawr, derbyniodd Neuadd pentref Myddfai £8,722 tuag at baneli gwybodaeth a gweithdai cymunedol yn barod ar gyfer y dylifiad o ymwelwyr y mae Myddfai yn eu disgwyl yn 2017 diolch i ‘Flwyddyn y Chwedlau’ Croeso Cymru. Dyfarnwyd £593 i Neuadd pentref Trecastell tuag at fesurau arbed ynni. Mae ymgeiswyr llwyddiannus eraill yn cynnwys Canolfan Deuluol St John’s yn Aberhonddu a dderbyniodd £7,380 tuag at recriwtio gwirfoddolwyr, sicrhaodd Menter Iaith £16,000 dros ddwy flynedd i ddatblygu gwasanaethau iaith Gymraeg gyda’r prosiect sector gweithgareddau awyr agored, a Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri, £9,900 tuag at ‘wagen arddangosfa fwyd’, yn hyrwyddo cynnyrch lleol. Ymhellach, aeth cyllid llai i Defynnog Old School Energy Efficiency, £1531, Cegin Biwro Gwirfoddol Aberhonddu, £500 a Lansiad Cynllun Tref Aberhonddu, £113.

Dywedodd Margaret Underwood, Cadeirydd Bwrdd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (ac Aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol) wrthym: “Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy’n rhan hanfodol o waith Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae nifer o’r prosiectau yr ydym ni’n eu hariannu’n rhai sy’n llawn gweledigaeth ac yn wreichion sy’n tanio newidiadau mwy mewn cymunedau. Mae helpu pobl yn ein cymunedau lleol gyda chymorth ariannol o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn golygu ein bod yn helpu eu cymunedau i ddod yn fwy hydwyth a chynaliadwy, heb effeithio ar allu cenedlaethau’r dyfodol i barhau i fyw ac i weithio yn ein parc cenedlaethol prydferth. Rydym eisiau dyfodol cynaliadwy i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lle mae prosiectau ar gyfer gwelliannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cydweithio i greu newidiadau cadarnhaol a dyfodol gwell i bawb. Anogwn unrhyw un sydd am ddarganfod mwy i gysylltu â Swyddogion Prosiect Awdurdod y Parc Cenedlaethol.”

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â CDC a sut i wneud cais ewch i: neu cysylltwch â Swyddogion Prosiect CDC sdf@beacons-npa.gov.uk Ffoniwch: 01874 624437 Ar gyfer y brif raglen grantiau, dyddiadau cau ar gyfer gwneud ceisiadau yn 2017 yw 21 Mehefin, 30 Awst a 8 Tachwedd. Gellir derbyn ceisiadau am grantiau o dan £2000 ar unrhyw adeg.

DIWEDD