Dathlwch Gŵyl Ddewi trwy gerdded y Bannau heb i chi adael eich cadair freichiau, diolch i Google Maps

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni bydd pobl ar draws y byd yn gallu ‘cerdded’ Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog heb hyd yn oed adael eu cartrefi. Bydd rhannau eiconig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gael am y tro cyntaf ar Google Maps Street View o 1 Mawrth.

Treuliodd wardeniaid, staff a gwirfoddolwyr  Awdurdod y Parc Cenedlaethol fisoedd yr haf diwethaf yn cario’r camera Street View Trekker 23kg i fyny ac i lawr milltiroedd ar filltiroedd o rai o lwybrau mwyaf golygfaol y parc gan gynnwys rhannau o Ffordd y Bannau, Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Y Powdwr Gwn. Mae’r Trekker, a fenthycwyd i’r Awdurdod, yn cymryd cyfres o luniau i greu’r olygfa banoramig y mae defnyddwyr Google yn gyfarwydd â hi. Mae mannau eraill a gofnodwyd yn cynnwys llwybrau deiliog Parc Gwledig Craig y Nos, adfeilion Priordy Llanddewi Nant Hodni, prydferthwch sgydiau Blaen-y-glyn a llawer mwy.

Ychwanegodd Melanie Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Rydym yn edrych ymlaen at lansio Bannau Brycheiniog ar Google Maps y Dydd Gŵyl Dewi hwn, bydd yn arddangos prydferthwch y tirlun sydd wedi’i amddiffyn i bawb. Mae gallu gweld rhai o’r mannau prydferthaf ar-lein yn wych ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad i’r llwybrau neu i’r rhai hynny sydd am gynllunio taith o gysur eu cadair freichiau. I’r rhai hynny oedd yn ansicr ynghylch ymweld â’r Bannau, bydd y delweddau syfrdanol 360o yn eu hannog ymhellach.”

ENDS

Gallwch weld Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar Google Street View yma:

Parc Gwledig Craig y Nos

Ffordd y Bannau

Clawdd Offa

Llwybr Loxidge

Priordy Llanddewi Nant Hodni

Taith Gerdded Rufeinig Y Pigwn

Llwybr Powdwr Gwn

Bryngaer Pen-y-Crug

Sgydiau Blaen-y-glyn

Glannau Llyn Syfaddan

Cuddfan Adar Llangasty

Caeau Tŷ Mawr

Traeth Mawr

Mynydd Illtud

Bryngaer Twyn y Gaer