Mae gwaith atgyweirio un o’r llwybrau troed sydd wedi erydu fwyaf yng nghalon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cael ei gwblhau diolch i arian gan Ymgyrch Adfer Ein Mynyddoedd 2016. Llwybr Neuadd sydd uwchben Cronfa Ddŵr Neuadd a rhan o’r llwybr siâp pedol ble gellir gweld holl fynyddoedd y Bannau Canolog gafodd ei atgyweirio. Mae nawr yn barod am y miloedd o ymwelwyr a fydd yn cerdded y mynyddoedd yn ne Cymru eleni.
Llwyddodd yr ymgyrch ariannu torfol Prydeinig a gafodd ei gynnal gan Gyngor Mynydda Prydain ym mis Mai 2016 i godi dros £100,00 ar gyfer gwaith adfer brys ar rai o gopaon mwyaf eiconig Prydain, gyda £12,100 yn cael ei roi i lwybr Neuadd. Roedd gwir angen gwneud gwaith ar y llwybr gan ei fod mewn perygl o erydu.
Diolch i arian a godwyd gan yr ymgyrch a chyfraniad gan y tirfeddianwyr – y Cwmni Gynnau Anrhydeddus ynghyd â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Llywodraeth Cymru, cafodd cam cyntaf y gwaith ar y rhan uchaf ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2016. Cafodd y prosiect ei orffen yn gynharach ym mis Mawrth eleni. Mae llawer o’r llwybr ar lethrau serth ac roedd amodau tywydd yn arbennig o anodd gyda glaw trwm ac eira. Cafodd 750 tunnell o gerrig eu cludo i’r safle mewn awyren a chafodd dros 1,000 metr o’r llwybr ei adnewyddu.
Dywedodd Ian Rowat, Aelod Eiriolwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol dros Fioamrywiaeth a’r Amgylchedd:
“Mae llwyddiant Ymgyrch Adfer Ein Mynyddoedd yn dangos cymaint mae’r awyr agored yn ei olygu i bobl. Mae pedwar copa’r Bannau Canolog, Pen y Fan, Corn Du, Cribyn a Fan y Big yn croesawu tua 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Gall trwsio llwybrau troed poblogaidd gostio hyd at £170 y metr ac mae cefnogaeth y rhai sydd wedi bod yn codi arian a’r cyhoedd yn golygu bod y llwybr mynydd poblogaidd hwn mewn cyflwr da unwaith eto er mwyn i bawb allu ei fwynhau.”
DIWEDD