Y golau gwyrdd gan Aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gyfnod ymgynghori ar y Canllawiau Cynllunio Atodol newydd

Y golau gwyrdd gan Aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gyfnod ymgynghori ar y Canllawiau Cynllunio Atodol newydd, dros dro, ynghylch Canolfannau Mân-werthu’r Parc Cenedlaethol (Y Cynllun Datblygu Lleol, Polisi 42, Datblygu mewn Canolfannau Mân-werthu, maen prawf C)

Mae’r canllawiau drafft, dros dro, yn ymateb uniongyrchol i’r pandemig presennol sydd wedi achosi cymaint o chwalfa yn y diwydiant mân-werthu.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod y dylai’r system cynllunio allu ymateb i’r sefyllfa drwy wneud yn siŵr bod canolfannau mân-werthu a masnachol yn gallu gweithredu mor hyblyg â phosibl.  Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol Dros Dro yn ceisio gweithredu’r polisi mân-werthu’n fwy hyblyg mewn pedair canolfan mân werthu benodol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Aberhonddu, y Gelli Gandryll, Talgarth a Chrughywel). 
Bydd y canllawiau newydd, dros dro, yn cefnogi ymgeiswyr sydd eisiau newid defnydd eiddo A1 dros dro i ddefnydd mân-werthu arall, ac eithrio defnydd trigiannol, i wneud hynny am gyfnod o hyd at 12 mis heb orfod dangos diffyg galw mân-werth am yr uned.  Gellid gweld y byddai’r cyfnod marchnata helaeth sydd ei angen ar hyn o bryd yn rhwystr i fathau llai parhaol o fân-werthu, megis unedau dros dro, sy’n cael eu cefnogi a’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn ei Nodyn Cyngor Technegol 4.  

Pe byddai’r ymgeisydd eisiau newid y defnydd yn barhaol o A1, yna bydd yn dal gofyn cynnal cyfnod o ymarfer marchnata cadarn i ddangos fod y farchnad mân-werthu wedi’i phrofi, fodd bynnag, mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn cynnig lleihau’r cyfnod marchnata hwnnw o’r 12 mis sydd ei angen ar hyn o bryd i dri mis.  Ar ben hyn, mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn caniatáu i ymgeisydd gynnal yr ymarfer farchnata o fewn y cyfnod gras o 12 mis ar gyfer gweithredu ‘newidiadau dros dro’. 

Meddai Gareth Ratcliffe, Cadeirydd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “Mae hyn yn gyfle gwych trwy COVID-19 i symud ymlaen gyda’r polisi hwn.  Mae’r canllawiau dros dro’n ceisio sicrhau bod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn dal ati gyda’i agwedd ‘mân-werthu’ yn gyntaf ar gyfer ein trefi marchnad hanesyddol.  Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd y mae’r Awdurdod a’n cymunedau ei angen i gynnal bywiogrwydd a bwrlwm ein trefi a’u canolfannau mân-werthu yn y cyfnod anodd hwn”.

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Iau 15 Ebrill 2021.

Mae’r ddogfen ymgynghori llawn ar ein gwefan yma – 

www.bannaubrycheiniog.org/cynllunio/strategaeth-a-pholisi/ymgyngoriadau/
 Rydyn ni’n eich annog i anfon unrhyw sylwadau sydd gennych atom ni drwy’r cyfeiriad e-bost hwn

 LDP@beacons-npa.gov.uk